Swyddfa Cymru
Disgrifiad Swydd ar gyfer Swyddog Polisi: Cyfansoddiad
Teitl y Swydd Swyddog Polisi: Cyfansoddiad
Graddfa Tâl
EO
Cyflog
£29,303 - £31,061
Lleoliad
Tŷ William Morgan, Caerdydd, CF10 1EP
Yn atebol i
Uwch Swyddog Gweithredol - Uwch Gynghorydd Polisi: Cyfansoddiad
Contract
Contract neu Fenthyciad Cyfnod Penodol hyd at 18 mis gyda’r posibilrwydd
o estyniad neu swydd barhaol
Cliriad
Gwiriad Gwrthderfysgaeth (Gweler Gwybodaeth Ychwanegol)
Gwybodaeth am Swyddfa Cymru
Swyddfa Cymru yw wyneb Llywodraeth y DU yng Nghymru, a llais Cymru yn San Steffan.
Rydyn ni’n cefnogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r tîm Gweinidogol i gynrychioli Cymru wrth
galon y Llywodraeth. Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth ag adrannau eraill y Llywodraeth
a gyda rhanddeiliaid eraill er mwyn cael Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig gadarn.
Gwerthoedd ein hadran yw Ymrwymiad, Cydweithredu ac Ansawdd. Mae’r rhain yn siapio sut
rydyn ni’n gweithredu mewn amgylchedd heriol a chyflym sy’n gofyn am hyblygrwydd,
tryloywder a phroffesiynoldeb.
Mae’r Swyddfa ar ddau safle, gydag un yng Nghaerdydd ac un arall yn Llundain. Fel sefydliad
achrededig sy’n gweithio’n glyfar, rydyn ni’n cynnig hyblygrwydd sylweddol o ran ‘y ffordd
rydyn ni’n gweithio’. Mae gennym ni dechnoleg wych a phecyn buddiannau deniadol i weithwyr
sy’n cynnwys ymrwymiad i fuddsoddi yn addysg a datblygiad ein staff.
Gwybodaeth am y tîm
Mae’r Tîm Cyfansoddiad yn gweithio ar draws Whitehall a gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau
bod setliad datganoli Cymru yn gweithio’n effeithiol. Mae’n gyfrifol am ystod eang o faterion
datganoli sy’n ymwneud â Chymru, gan gynnwys materion yng Nghymru yn rhaglenni
deddfwriaethol Llywodraeth y DU.
Mae hefyd yn gweithio ar draws Whitehall ar faterion cyfansoddiadol, gan gynnwys
cysylltiadau rhynglywodraethol a fframweithiau cyffredin. Mae ei gyfrifoldebau ehangach hefyd
yn cynnwys materion yr UE a pholisi tramor, ac etholiadau yng Nghymru. Mae deiliad y swydd
yn gyfrifol am gyflawni agweddau allweddol ar y gwaith hwn.
Y Prif Gyfrifoldebau
Fel rhan o’r Tîm Cyfansoddiad, byddwch yn gyfrifol am ddrafftio gohebiaeth swyddogol a
Gweinidogol, a briffio’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion ar ystod o feysydd ym
mhortffolio’r tîm.
Bydd y swydd hon yn cynnwys:
• Darparu cyngor o ansawdd uchel a briff ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Gwladol a
Gweinidogion ar faterion sy’n ymwneud â’r cyfansoddiad, gan ganolbwyntio ar
agweddau Cymreig ar faterion perthnasol.
• Drafftio ymatebion i ohebiaeth swyddogol a Gweinidogol ar ystod o faterion yn unol â
gweithdrefnau a therfynau amser mewnol.
• Monitro datblygiadau cyfansoddiadol sy’n effeithio ar Gymru ac adrodd yn ôl i aelodau’r
tîm, gan gynnwys Cynghorwyr Arbennig a Gweinidogion.
• Gweithio gydag Adrannau Eraill y Llywodraeth ar draws Whitehall, Llywodraeth Cymru,
a rhanddeiliaid allanol ehangach yng Nghymru i sicrhau bod buddiannau Cymru yn
cael eu hadlewyrchu’n llawn ym mholisïau Llywodraeth y DU.
• Mae’r swydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i weithio’n hyblyg ar draws y gyfarwyddiaeth
ar ystod eang o feysydd polisi, gan gynnwys materion domestig a thwf lleol.
• Nid oes cyfrifoldebau rheoli llinell ar gyfer y swydd hon.
Ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn hollgynhwysol, ac mae’n debygol y bydd dyletswyddau’n cael
eu newid o bryd i’w gilydd yng ngoleuni amgylchiadau sy’n newid ac ar ôl ymgynghori â deiliad
y swydd.
Manyleb y Person
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cymell ei hun, gweithio ar ei liwt ei hun a meithrin
perthynas gadarn a chynhyrchiol â chyd-weithwyr a rhanddeiliaid i gyflawni blaenoriaethau’r
Llywodraeth ar gyfer Cymru. Mae’r swydd hon yn gyfle gwych i weithio fel rhan o dîm bach i
ddatblygu sgiliau llunio polisïau ac ymwybyddiaeth wleidyddol mewn amgylchedd sy’n newid
yn gyflym.
Dylech ddangos yn eich Datganiad Addasrwydd pa mor agos rydych chi’n cyfateb i’r meini
prawf hanfodol:
Hanfodol:
• Sgiliau TG rhagorol gyda phrofiad penodol o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office.
• Gallu amlwg i ddadansoddi gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau a chyfleu
canfyddiadau sydd wedi’u teilwra i’ch cynulleidfa.
• Sgiliau cyfathrebu cadarn ar lafar ac ar bapur, yn hyderus yn gweithio gyda chyd-
weithwyr ar bob lefel ac yn meithrin perthynas â rhanddeiliaid.
• Profiad o weithio’n annibynnol mewn amgylchedd lle bydd weithiau angen delio â mwy
nag un dasg ar yr un pryd a blaenoriaethu.
Dymunol:
• Mae sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig yn ddymunol iawn, ond nid yn hanfodol.
Y Broses Recriwtio
Bydd yr ymgyrch yn defnyddio fframwaith Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Bydd angen i
chi ddarparu tystiolaeth yn eich cais ar gyfer yr ymddygiadau canlynol:
• Cyfathrebu a Dylanwadu (Ymddygiad Arweiniol) (Cais a Chyfweliad)
• Cydweithio (Cais a Chyfweliad)
• Gweld y Darlun Mawr (Cyfweliad yn Unig)
• Cyflawni’n Gyflym (Cyfweliad yn Unig)
Os bydd nifer fawr o ymgeiswyr, byddwn yn didoli ar sail yr ymddygiad arweiniol yn unig er
mwyn creu rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nid yw Swyddfa Cymru’n gyflogwr yn ei rhinwedd ei hun. Bydd staff sy’n cael eu recriwtio i
weithio yn yr adran yn cael eu cyflogi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n darparu
gwasanaethau cyflogaeth ar ein rhan.
Mae angen cliriad ar lefel Gwiriad Gwrthderfysgaeth ar gyfer y swydd hon. Rhaid i ymgeiswyr
sydd angen Cliriad Diogelwch Gwladol (Gwiriad Gwrthderfysgaeth) fod wedi byw yn y DU am
y 3 blynedd cyn iddynt wneud cais am Gliriad Diogelwch. Os ydych chi wedi treulio amser
sylweddol dramor (cyfanswm o 6 mis yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf), bydd rhaid i chi roi
disgrifiad rhesymol o’r rhesymau dros hynny.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad uchod, mae’n bosib y byddwch yn dal yn cael eich ystyried
am y swydd os, er enghraifft:
• Rydych chi wedi bod yn gwasanaethu dramor gyda Lluoedd Arfog EF neu mewn rhyw
swydd swyddogol arall fel cynrychiolydd Llywodraeth EF.
• Roeddech chi’n astudio dramor.
• Roeddech chi’n byw dramor gyda’ch rhieni.