Mae Cyfiawnder yn bwysig 
 
 
Cynghorydd Cyfreithiol 
Proffil swydd 
 

Cynnwys 
 
 

Trosolwg 
Tudalen 3 
Swydd Ddisgrifiad 
Tudalen 4 
Proffil Llwyddiant 
Tudalen 5 a 6 
Datblygu Gyrfa 
Tudalen 7 
 
Tudalen | 2 

 
 
 
 
Trosolwg 
Pam rydym yn bodoli 
 
Mae’r Llysoedd Ynadon yn delio ag oddeutu 95% o achosion troseddol, 70% o achosion sifil a 60% 
o achosion teulu yng Nghymru a Lloegr. Mae delio ag achosion yn gyfiawn ac yn gyflym, ac mewn 
ffordd sy’n bodloni anghenion defnyddwyr ein llysoedd, wrth wraidd yr hyn a wnawn. 
Mae rôl cynghorydd cyfreithiol yn hanfodol i sicrhau gweithrediad llyfn y llys. Barnwyr heb 
gymwysterau priodol o'r gymuned leol sy'n eistedd ar sail wirfoddol yw Ynadon. Gan nad oes gan 
Ynadon gefndir cyfreithiol, mae'n ofynnol i'r Cynghorydd Cyfreithiol eistedd gyda nhw yn y llys i roi 
cyngor ar bwyntiau cyfreithiol, arferion a gweithdrefnau a’u cynorthwyo i lunio a drafftio eu 
rhesymau. 
 
Fel cynghorydd cyfreithiol i'r ynadon, rydych yn gyfrifol am sicrhau bod y rhai hynny sy’n mynychu'r 
llys, boed hynny fel diffynnydd, dioddefwr neu dyst yn cael eu trin gydag urddas a pharch. Mae 
gwybodaeth gyfreithiol dda a’r gallu i gyfathrebu'r wybodaeth honno yn glir i ynadon a defnyddwyr 
y llys yn hanfodol er mwyn i'r llysoedd allu delio ag achosion yn gyfiawn. Drwy fod yn llwyddiannus 
yn y rôl yr ydych yn ystyried ymgeisio amdani, byddwch yn gallu gwneud gwahaniaeth positif i’ch 
cymuned a’ch cymdeithas. 
 
Rydym yma i sicrhau bod pawb sydd angen ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd yn cael gwasanaeth 
sy’n bodloni eu hanghenion. 
Rydym yn dod i ddiwedd ein Rhaglen Ddiwygio dros chwe blynedd gwerth £1 biliwn i newid beth 
rydym yn ei wneud a gwneud ein gwasanaethau yn well i'r gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu. 
Y Rhaglen Ddiwygio yw un o'r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol o’i math yn y byd. 
Sut ydym am gyflawni ein gweledigaeth? 
 
Bob blwyddyn mae miliynau o bobl yn ceisio cael cyfiawnder yn ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd. 
Rydym wedi ymrwymo i wella profiad y cwsmer yn sylweddol drwy: 
 
•  Ddefnyddio technolegau digidol i sicrhau mynediad at gyfiawnder drwy alluogi dioddefwyr a 
thystion i roi eu tystiolaeth mewn ffordd llai brawychus, er enghraifft drwy gyswllt fideo; 
•  Datblygu prosesau hunanwasanaeth, lle bo’n briodol, i bobl allu cael mynediad cyflym a 
rhwydd at wasanaethau barnwrol anghymhleth; 
•  Symleiddio prosesau fel y gallwn ail-fuddsoddi mewn adnoddau i wneud gwelliannau a 
fyddai o fudd i’n cwsmeriaid; 
 

 
•  Symud achosion yn eu blaen drwy'r llys yn effeithiol ac yn effeithlon gan wneud y mwyaf o'r 
prosesau digidol newydd. 
 
Fel Cynghorydd Cyfreithiol, byddwch mewn sefyllfa flaengar iawn i ddarparu'r gwasanaeth a’r 
profiad hwn i’n cwsmeriaid yn yr ystafell llys a thu allan i’r ystafell llys. 
 
 
Swydd Ddisgrifiad 
Fel cyfreithiwr cymwys a fydd yn dechrau gweithio fel Cynghorydd Cyfreithiol, byddwch yn cael 
eich cefnogi i gwblhau rhaglen hyfforddi Cynghorydd Cyfreithiol 12 mis y Coleg Barnwrol. Bydd hyn 
yn rhoi’r sgiliau priodol i chi gael swyddogaethau dirprwyedig a fydd yn eich galluogi i weithredu fel 
Cynghorydd Cyfreithiol i’r Ynadon a’r Barnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) yn unol â deddfwriaeth a 
Chyfarwyddiadau Ymarfer y Llys Troseddol a’r Llys Teulu. Yn ystod eich cyfnod hyfforddi fe gyfeirir 
atoch fel “Cynghorydd Cyfreithiol mewn Hyfforddiant". 
Rôl y Cynghorydd Cyfreithiol yw cynghori ynadon yn y Llys Teulu a’r Llys Troseddol ar gyfraith, 
arferion a gweithdrefnau perthnasol a hwyluso penderfyniadau barnwrol ac ysgrifennu dyfarniadau. 
Byddwch hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Chynghorwyr Cyfreithiol eraill, y farnwriaeth a staff i 
reoli achosion yn yr ystafell llys a thu allan i’r ystafell llys. 
 
Bydd disgwyl i chi weithio tuag at gyrraedd cerrig milltir gyrfa Cynghorydd Cyfreithiol a chael y 
profiad sydd ei angen i ddod yn Gynghorydd Cyfreithiol Haen 1 a Haen 2 a chael eich awdurdodi i 
gyflawni swyddogaethau barnwrol perthnasol o dan Reolau Trefniadaeth y Llys Teulu a/neu’r Llys 
Troseddol. 
Mae'r rôl yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa o fewn gweithrediadau cyfreithiol yn ogystal â 
rolau ehangach mewn rheoli, hyfforddi a chyflwyno prosiectau. Mae’r rôl hefyd yn cynnig cyfleoedd 
rhagorol ac unigryw i ddeiliaid swyddi gael profiad sy’n berthnasol i benodiadau barnwrol. 
 
Technegol 
 
I fod yn gymwys ar gyfer y swydd hon, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cymhwyso’n llawn i ymarfer fel 
Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr neu feddu ar y Prawf Trosglwyddo 
Cyfreithwyr Cymwys (QLTT) neu fod yn Gymrawd o CILEX/CILEX Lawyer , gan gynnwys 
cwblhau'r cyfnod penodedig perthnasol o brofiad proffesiynol (e.e. contract hyfforddi neu dymor 
prawf). Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu cyflawni pob agwedd lafar o’r rôl yn hyderus 
drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan leolir y swydd yng Nghymru) Cymraeg. 
 
Mae amcanion allweddol y rôl wedi'u cynnwys o fewn Fframwaith Cymwyseddau 
Cynghorydd Cyfreithiol sy'n cynnwys: 

(i) 
Meithrin a chynnal perthynas waith effeithiol gydag ynadon
•  Cynghori'r ynadon ar y gyfraith, arferion a gweithdrefnau a’u cynorthwyo i ddrafftio eu 
rhesymau 
•  Hwyluso proses gwneud penderfyniadau strwythuredig sy’n seiliedig ar wybodaeth o 
dechnegau, llawlyfrau, canllawiau a datblygiadau statudol a chyfraith achos presennol 
priodol 
•  Gweithio mewn partneriaeth ag ynadon yn yr ystafell llys a thu allan i'r ystafell llys a dangos 
cydnabyddiaeth a dealltwriaeth o arferion lleol, gweithdrefnau, polisïau, materion cyfredol a 
chyfleoedd hyfforddi perthnasol. 
 
(ii)  Hwyluso busnes y Llys: 
•  Paratoi gwrandawiadau fel bod achosion a busnes y llys yn gallu mynd rhagddo’n effeithiol. 
•  Rhoi cyngor proffesiynol a pharatoi dogfennau y tu mewn a thu allan i’r ystafell llys 
•  Cynllunio, cynnal a chwblhau gwrandawiadau rheoli achosion yn effeithiol, pan fyddwch yn 
eistedd gyda neu heb fainc o ynadon 
 
Tudalen | 4 

 
 
•  Defnyddio gwybodaeth arbenigol a sgiliau yn yr ystafell llys a thu allan i’r ystafell llys yn 
ogystal â gyda thimau gweinyddol ac mewn cyfarfodydd cysylltiedig 
•  Cysylltu ag asiantaethau perthnasol 
•  Gallu defnyddio TG yn hyderus ac yn gymwys a fydd yn cynnwys defnyddio systemau TG 
yn y llys ac adnoddau cyfreithiol digidol ar-lein. 
•  Cofnodi manylion a chanlyniadau achosion/gwrandawiadau yn gywir gan ddefnyddio 
system ddigidol y llysoedd. 
 
(iii) 
Cynghori a Gweithio gyda Staff: 
•  Gweithio mewn partneriaeth â staff eraill, gan ddefnyddio eich gwybodaeth am brotocolau, 
gweithdrefnau, prosesau a chyfyngiadau perthnasol 
•  Gallu cwblhau dyletswyddau gweinyddol o fewn terfynau amser statudol ac anstatudol gan 
ddefnyddio protocolau trefnu, rhestru a rheoli achosion lleol 
•  Rhoi cyngor ac arweiniad cyfreithiol i staff gweinyddol 
 
Gwneud Penderfyniadau 
 
Mae'r gallu i gynghori a gwneud penderfyniadau gwrthrychol a diduedd yn rhan bwysig o rôl 
cynghorydd cyfreithiol. Weithiau bydd y penderfyniadau hynny'n cynnwys materion cymhleth a 
buddion cystadleuol ac fel cynghorydd cyfreithiol bydd angen i chi allu gwneud penderfyniadau 
cadarn yn ogystal â rhoi rhesymau clir dros y penderfyniadau hynny. 
 
Bydd penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gyfraith yn gofyn am waith ymchwil gyfreithiol gadarn, 
defnyddio adnoddau ar-lein, a'r gallu i amgyffred deddfwriaeth a chyfraith achosion yn gyflym a'i 
rhoi ar waith yn hyderus i'r sefyllfa sy'n cael ei hystyried. 
 
Bydd hefyd yn ofynnol i chi flaenoriaethu a chwblhau gwaith yn effeithlon gan ystyried anghenion y 
rhai sydd â budd yn yr achos. 
 
 
Swyddogaethau y tu allan i'r ystafell llys 
Pan na fydd yn yr ystafell llys, bydd yn ofynnol i'r Cynghorydd Cyfreithiol baratoi ar gyfer y llys, 
ymchwilio i faterion cyfreithiol, cefnogi'r swyddogaeth datblygu achosion, delio ag ymholiadau a 
chynorthwyo i gwblhau dyletswyddau gweinyddol eraill y tîm yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr y 
Tîm Cyfreithiol. 
 
Gwasanaeth cwsmeriaid a safonau: 
•  Hyrwyddo gweithgareddau a safonau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr - meddu ar sgiliau 
ysgrifenedig a rhyngbersonol cadarn gan ddefnyddio egwyddorion Llais Dynol Cyfiawnder 
•  Cyfrannu at SOC, SAF - arwain at gynnal safonau gwasanaethau ac adnabod meysydd 
sydd angen eu gwella - datblygu datrysiadau gan ddefnyddio technegau ‘gwelliant 
parhaus’. 
•  Rheoli cwynion a methiannau i wasanaethau a gallu defnyddio OPTIC. 
 
Y Broses Ddethol   
Defnyddir Proffiliau Llwyddiant ar gyfer y swydd wag hon i asesu eich ymddygiadau, eich cryfderau 
a’ch gallu. Fe’ch asesir ar lefel 3 HEO/SEO. Nodir yr ymddygiadau a fydd yn sail i’ch asesiad isod. 
Anogir ymgeiswyr i ymgyfarwyddo eu hunain â’r fframwaith proffil llwyddiant. I gael gwybod mwy 
am broffiliau llwyddiant, cliciwch yma Fframwaith Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil 
 

 
Ymddygiadau 
 
Cyfathrebu a Dylanwadu 
Rydych yn cyfathrebu'n glir ac yn gryno, yn gwrando ar eraill ac yn addasu eich arddull i weddu i'r 
gynulleidfa. Rydych yn cyfathrebu ac yn dylanwadu'n hyderus ac yn herio eraill mewn modd 
adeiladol. Rydych yn diweddaru eraill bob amser ac yn gallu datblygu ymddiriedaeth a pharch 
rhwng y ddwy ochr. 
 
Gweithio ar y cyd 
 
Rydych yn ymddwyn mewn ffordd agored ac yn gallu datblygu perthynas waith dda yn hawdd. 
Rydych yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu eraill ac yn barod bob amser i gefnogi cydweithwyr gyda'u 
llwyth gwaith. Rydych yn gweithredu fel model rôl proffesiynol ac yn rhoi arweiniad i'r staff 
gweithredol. 
 
Newid a Gwella 
 
Byddwch yn creu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel i herio a gwybod y gwrandewir ar yr 
hyn sydd ganddynt i’w ddweud. Rydych yn gwneud newidiadau sy’n ychwanegu gwerth ac yn 
esbonio’n glir sut bydd y busnes yn elwa o’r newidiadau. Rydych yn deall ac yn adnabod rôl 
technoleg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a gweithredu polisïau. 
 
Rheoli Gwasanaeth o Safon 
 
Rydych yn gweithredu fel unigolyn proffesiynol y llys, gan gynnal awdurdod a rheolaeth ac 
ymddwyn gydag uniondeb bob amser. Rydych yn ystyried anghenion defnyddwyr y llys ac yn eu 
trin gydag empathi a dealltwriaeth. Rydych yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth rhagorol, gan 
adnabod cyfleoedd i wella prosesau a pherfformiad ac yn cymryd cyfrifoldeb personol am eich 
dysgu a'ch datblygiad eich hun. 
Cyflawni ar Gyflymder 
Rydych yn cymryd cyfrifoldeb personol am gyflawni gwaith o ansawdd uchel, gan ddangos sgiliau 
trefnu a rheoli amser rhagorol. Rydych yn gweithio'n effeithiol o dan bwysau ac yn dangos 
gwydnwch mewn sefyllfaoedd heriol. Rydych yn hyblyg ac yn addasu'n gyflym i sefyllfaoedd ac 
amgylchiadau newydd, gan groesawu newid ac annog eraill i wneud yr un peth. 
 
Cryfderau 
 
Fel rhan o'r Fframwaith Proffil Llwyddiant, bydd y cryfderau sy'n berthnasol i'r rôl yn cael eu hasesu 
yn y cyfweliad. 
 
Gallu 
 
Bydd eich sgiliau a’ch gallu i gynnal gwybodaeth gyfreithiol perthnasol a chyfredol yn cael eu 
hasesu yn y cyfweliad. 
 
 
Hyfforddiant 
 
Mae GLlTEF yn cynnig rhaglen hyfforddi bwrpasol sy'n cael ei darparu drwy amrywiaeth o ddulliau 
hyfforddi. Bydd y Cynghorydd Cyfreithiol mewn Hyfforddiant yn cael ei gefnogi gan fentor 
dynodedig i'w harwain drwy gydol y Rhaglen Gynefino a Hyfforddi. 
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu Rhaglen Gynefino a gynhelir gan y Coleg 
Barnwrol. Bydd hyd y rhaglen gynefino hon yn amrywio gan ddibynnu ar yr awdurdodaeth; fodd 
Tudalen | 6 
 

 
 
bynnag, bydd fel arfer yn amrywio rhwng dau / tri diwrnod. Dilynir hyn gan hyfforddiant atodol yn y 
gweithle a chwblhau modiwlau a geir yn Llawlyfr Cynghorwyr Cyfreithiol y Coleg Barnwrol. Ehangir 
ar hyn gan arsylwadau llys perthnasol a digwyddiadau hyfforddi lleol a rhanbarthol ychwanegol 
gyda chyfoedion. 
 
 
Datblygu Gyrfa 
 
Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus, bydd y Cynghorydd Cyfreithiol mewn Hyfforddiant yn 
symud ymlaen i rôl Cynghorydd Cyfreithiol Haen 1 (gyda chynnydd cysylltiedig mewn cyflog). Yn 
dilyn cael ei benodi fel Cynghorydd Cyfreithiol Haen 1 bydd rhaglen ddatblygu yn cael ei chynnig er 
mwyn gallu symud ymlaen i rôl Cynghorydd Cyfreithiol Haen 2 (gyda chynnydd cysylltiedig mewn 
cyflog). 
 
Disgwylir i Gynghorwyr Cyfreithiol Haen 2 ddangos lefel uchel o broffesiynoldeb cyfreithiol a 
byddant yn defnyddio'r sgiliau hynny y tu allan i'r ystafell llys er budd ehangach eu tîm a GLlTEF. 
Mae'r rôl Haen 2 yn rhoi'r cyfle i arddangos gwybodaeth a sgiliau mewn maes ymarfer cyfreithiol 
cydnabyddedig ynghyd â'r ystod lawn o bwerau dirprwyedig cysylltiedig. Mae Cynghorwyr 
Cyfreithiol Haen 2 yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod achosion yn cael eu rheoli’n effeithiol 
a bod achosion cymhleth yn cael eu rheoli. 
 
Mae'r rôl Haen 2 hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu gyrfa mewn meysydd eraill fel rheoli ac arwain, 
mentora a hyfforddiant, gwasanaeth cwsmeriaid a chyflenwi sefydliadol. 
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol Haen 2 yn chwarae rhan bwysig wrth fentora aelodau eraill o staff, 
boed yn Gynghorwyr Cyfreithiol dan Hyfforddiant, yn Gynghorwyr Cyfreithiol mewn Hyfforddiant, yn 
brentisiaid ac yn Gynghorwyr Cyfreithiol eraill sydd yn y broses o ddatblygu eu sgiliau drwy'r 
strwythur gyrfa. 
 
Gall Cynghorwyr Cyfreithiol Haen 2 ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn GLlTEF drwy gyfrwng 
cyfleoedd i wneud cais am swyddi Rheolwr Tîm Cyfreithiol neu o fewn y gwasanaeth sifil 
ehangach. 
 
 
Secondiadau 
 
O fewn Strwythur Gyrfa Cynghorydd Cyfreithiol, mae gan gynghorwyr cyfreithiol gyfle i ymgeisio 
am, a chael eu hystyried ar gyfer secondiadau cyfreithiol a secondiadau sydd ddim ym maes y 
gyfraith mewn adrannau eraill o GLlTEF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac asiantaethau eraill y 
Llywodraeth. 
 
Penodiadau Barnwrol 
 
Bydd Cynghorydd Cyfreithiol Haen 2 yn canfod bod yr wybodaeth a'r sgiliau a enillir yn y rôl yn 
arbennig o berthnasol i unrhyw ddyheadau ar gyfer penodiad barnwrol. Mae GLlTEF yn cefnogi 
ceisiadau am benodiad barnwrol ac mae nifer o gynghorwyr cyfreithiol o fewn GLlTEF yn eistedd 
fel aelod o’r farnwriaeth sy’n derbyn ffi mewn tribiwnlysoedd, llysoedd sirol a llysoedd ynadon. 
 
 
 
 
 
 
Lleoliad 
 

 
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig swydd mewn llys penodol sy'n gallu goruchwylio'r 
rhaglen hyfforddi. Mewn llawer o ardaloedd mae timau cyfreithiol yn gweithio mewn nifer o lysoedd 
gwahanol a gellir disgwyl cryn dipyn o waith teithio. 
Mae’r rhaglen hyfforddi yn cymryd hyd at flwyddyn i'w chwblhau a disgwylir y bydd y rhaglen yn 
cael ei chwblhau yn y llys lle’r ydych wedi eich lleoli. Ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol, ni 
ddylai deiliad y swydd wneud cais i gael ei drosglwyddo i ardal arall yn ystod y rhaglen hyfforddi. 
 
 
Arweiniad yw’r swydd ddisgrifiad uchod i brif ddyletswyddau cyfredol y swydd. Nid yw'n rhestr 
gynhwysfawr o ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd a gall fod yn ofynnol i ddeiliad y swydd 
ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd sy'n gymesur â statws a natur y 
swydd. 
 
Tudalen | 8