Cynghorydd Cyfreithiol dan Hyfforddiant
Mae rôl y cynghorydd cyfreithiol yn hanfodol er mwyn i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) redeg yn esmwyth ac mae’n swydd sy’n rhoi llawer o foddhad o fewn ein sefydliad. Bydd cyfleoedd dysgu o’ch cwmpas bob dydd, felly os ydych yn angerddol am y gyfraith, gallai hon fod y rôl i chi.
Rydych yn gyfathrebwr rhagorol gyda’r gallu i ysbrydoli hyder ym mhawb rydych chi’n gweithio gyda nhw ac â’r hunanhyder i siarad yn y llys. Rydych wedi pasio cam academaidd y cymhwyster i ddod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr yng Nghymru neu Loegr, neu rydych yn aelod graddedig o Sefydliad Siartredig Swyddogion Gweithredol y Gyfraith. Rydych yn frwdfrydig ynghylch y cyfrifoldeb sy’n dod yn sgil bod ar reng flaen y system gyfiawnder. A nawr rydych chi’n barod i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas a’r cymunedau rydyn ni’n byw ynddynt.
Mae ein gwaith yn GLlTEF yn hanfodol bwysig i sicrhau bod system gyfiawnder deg, hygyrch ac effeithlon yn rhedeg yn esmwyth, gan ein bod yn gyfrifol am weinyddu llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr. Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am gynghorwyr cyfreithiol dan hyfforddiant i ymuno â’n tîm cyfreithiol eithriadol a datblygu’r sgiliau i roi cyngor i ynadon ar bwyntiau cyfreithiol, arfer a gweithdrefnau, a chynorthwyo gyda’r gwaith o lunio a drafftio’r rhesymau y tu ôl i’w dyfarniadau.
Pwysig:
Mae'n hanfodol wrth ddeall natur unigryw y rôl hon bod darpar ymgeiswyr yn ymweld â Llys Ynadon i arsylwi achosion llys cyn y cam cyfweliad - os ydynt yn llwyddo gyrraedd y cam hwnnw. Anogir ymgeiswyr i gynllunio ymlaen llaw oherwydd gall y cyfnod rhwng cael cadarnhad a dyddiad y cyfweliad fod yn gyfyngedig ac efallai na fydd cyfweliadau yn mynd rhagddynt os nad oes arsylwi wedi'i wneud. Mae'r broses arsylwi yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ddyletswyddau Cynghorydd Cyfreithiol dan Hyfforddiant ac yn cynnig dealltwriaeth ymarferol o amgylchedd y llys, yn ogystal â'r rolau a'r cyfrifoldebau amrywiol sy'n gysylltiedig â hynny. Mae'r rhai sydd wedi ymgymryd â'r profiad hwn yn aml yn dweud fod ganddynt fwy o hyder a chymhelliant i ragori yn y rôl.
Dysgu sgiliau cyfreithiol newydd wrth i chi ddatblygu eich gyrfa
Pan fyddwch yn ymuno â ni fel cynghorydd cyfreithiol dan hyfforddiant, byddwch yn darganfod yn gyflym nad dyma’ch rôl arferol 9 tan 5, gan bod pob diwrnod yn wahanol. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd bob dydd wrth i chi weithio’n gyflym mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym ac yn newidiol, ac yn helpu i gadw’r llysoedd yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon. Gan weithio ar bopeth o fân droseddau moduro i droseddau difrifol, byddwch yn cael eich cefnogi a’ch mentora trwy gydol eich cyfnod hyfforddi o ddwy flynedd. Unwaith y byddwch wedi cwblhau hwn, byddwch wedyn yn cael y cyfle i ddatblygu eich gyrfa gyfreithiol ymhellach o fewn GLlTEF.
Gweithio fel wyneb cymwys, proffesiynol y llysoedd
Yn hytrach na gweithredu ar ran cleient byddwch yn cynnig cyngor cyfreithiol diduedd a gwrthrychol, felly bydd angen i chi fod yn angerddol am y gyfraith a’r materion y mae’n rhaid eu hystyried pan fydd ynadon yn rhoi dyfarniadau a dedfrydau.
Bydd helpu i gynnal gwrandawiadau rheoli achos yn rhan allweddol arall o’ch rôl, yn ogystal â chydlynu ag asiantaethau allanol sy’n ymwneud â gwaith llys arbenigol. Unwaith y byddwch wedi cymhwyso, byddwch yn gweithredu fel wyneb proffesiynol y llys, felly byddwn yn disgwyl i chi weithio gydag uniondeb, empathi a dealltwriaeth, a sicrhau bod pawb sy’n mynychu’r llys yn cael eu trin ag urddas a pharch bob amser.
Cymhwyswch eich holl sgiliau wrth i chi gynyddu eich gwybodaeth am y gyfraith
Yn ogystal â’ch cymwysterau academaidd a’ch sgiliau cyfathrebu ardderchog, byddwch wedi ymrwymo i wella a chynnal eich gwybodaeth am y gyfraith. Yn agored, yn hawdd mynd atoch, yn broffesiynol ac yn gefnogol, byddwn yn disgwyl bod gennych sgiliau datrys problemau rhagorol a’r gallu i feddwl ar eich traed mewn llys prysur. Bydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud, a gall y rhain gael effaith ddwys ar y bobl sy’n dod i’r llys, felly byddwch yn hyderus, yn ddiduedd ac â’r gallu i ystyried ystod eang o risgiau a goblygiadau. Yn hyblyg ac yn gallu addasu, a chyda lefel uchel o gyfrifoldeb personol, mae yna adegau pan fyddwch chi’n wynebu sefyllfaoedd heriol. Gyda hyn mewn golwg byddwch yn gydnerth ac yn parhau i fod yn ddigynnwrf o dan bwysau a bydd gennych ymagwedd ddiplomyddol ac ystyriol at bawb rydych yn gweithio gyda nhw.
Mae hon yn rôl rheng flaen yn y swyddfa/yn y llys. Byddwch yn cael eich dyrannu i leoliad eich gweithle sydd wedi’i gytuno rhyngoch chi a’ch rheolwr llinell fel rhan o’r broses recriwtio.
Bydd disgwyl i chi dreulio cyfnod eich hyfforddiant yn eich lleoliad sylfaen a gytunwyd arno i fodloni gofynion yr hyfforddiant a diwallu’r anghenion busnes yn y lleoliad hwnnw.
Rhaid i’n holl weithwyr gael cliriad diogelwch cyn cael eu penodi felly byddwch yn mynd trwy broses fetio os bydd eich cais yn llwyddiannus.
Mwynhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith gyda’n hamrywiaeth o fuddion
Pan fyddwch yn ymuno â ni, byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - ond sut byddwn yn eich helpu chi yn ôl am hynny?
Yn ogystal â chyflog cystadleuol, hawl gwyliau hael a phensiwn Gwasanaeth Sifil, byddwn yn cefnogi eich datblygiad gyda chyfleoedd hyfforddi i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa gyda ni. Rydym hefyd yn deall pwysigrwydd cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a chyda hyn mewn golwg rydym yn cynnig cynlluniau gweithio hyblyg, cyfnod mamolaeth a thadolaeth â thâl a buddion gofal plant rhagorol.
Mae’r gwaith hanfodol rydyn ni’n ei wneud o ganlyniad i gymuned anhygoel o gydweithwyr gyda gwahanol sgiliau, cefndiroedd, diwylliannau a hunaniaeth. Rydym yn cefnogi pob unigolyn, felly byddwch bob amser yn gwybod bod croeso i chi a’ch bod yn cael eich gwerthfawrogi. Mae gennym rwydweithiau staff cryf a rhagweithiol, addasiadau rhesymol ar gyfer y rhai sydd eu hangen a rhaglenni talent amrywiaeth i helpu pawb, waeth beth fo’u cefndir, i gyflawni eu potensial.
Os yw hyn yn swnio’n ddelfrydol i chi, defnyddiwch ein ffurflen gais ar-lein i wneud cais am rôl y cynghorydd cyfreithiol dan hyfforddiant. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rôl, cysylltwch â: HQlegal@justice.gov.uk
Cymwysterau gofynnol:
Ar hyn o bryd gall ymgeiswyr fod yn astudio ar gyfer y cymwysterau priodol pan fyddant yn gwneud cais ond mae’n rhaid iddynt allu
dangos eu bod wedi cymhwyso’n derfynol pan wneir cynnig i fynd ymlaen i’w penodi. Bydd ymgeiswyr na all ddangos tystiolaeth o’r
cymwysterau cywir ar y pwynt hwnnw yn cael eu tynnu o’r broses. Rydym yn rhagweld y bydd cynigion yn cael eu gwneud ym mis
Medi 2023..
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am y swydd hon, rhaid i ymgeiswyr fod wedi
pasio’r cam academaidd o gymhwyster i fod yn fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr,
neu’n gyfreithiwr yn Uwch Lysoedd Cymru a Lloegr, neu’n Gymrawd o Sefydliad
Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX) neu Gyfreithiwr CILEX drwy fod —
(i) wedi pasio’r arholiadau angenrheidiol; (mae enghreifftiau ohonynt wedi’u
rhestru isod)
(ii) wedi cael eithriad mewn perthynas â’r arholiadau angenrheidiol (mae
enghreifftiau ohonynt wedi’u rhestru isod) gan y corff archwilio priodol;
neu
(iii) unrhyw gyfuniad o’r ddau.
Mae’r rhestr ganlynol yn adlewyrchu’r cymwysterau academaidd sydd
wedi’u cymeradwyo ar hyn o bryd. Os ydych yn dal i fod yn ansicr a yw eich
cymwysterau yn eich gwneud yn gymwys, anfonwch e-bost at:
LegalRecruitment@justice.gov.uk am eglurhad:
• Y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) ar gyfer Cyfreithwyr, neu gymalau SQE1 a
SQE2 yr Arholiad Cymhwyso ar gyfer Cyfreithwyr ill dau; neu
• Cwrs Hyfforddi’r Bar; neu’r hyn sy’n cyfateb i Fargyfreithwyr; neu
• Diploma Proffesiynol Lefel 3 CILEx yn y Gyfraith ac Ymarfer a Diploma Lefel 6
CILEx yn y Gyfraith ac Ymarfer; neu
• Diploma Llwybr Cyflym CILEx ar gyfer graddedigion ; neu’r hyn sy’n cyfateb i
Aelodaeth Graddedigion o CILEx.
(Gweler tudalennau 10 -11 am fwy o wybodaeth).
Os ydych wedi cwblhau contract hyfforddi cydnabyddedig fel cyfreithiwr neu ddisgybl fel bargyfreithiwr neu wedi cofrestru fel Cymrawd CILEx (FILEx) neu fel Cyfreithiwr CILEx, y pwynt mynediad i GLlTEF yw fel Cynghorydd Cyfreithiol (Mynediad Cymwysedig)" . Am gyfleoedd Cynghorydd Cyfreithiol sydd ar gael chwiliwch: External Opportunities - MoJ (tal.net)
Ewch i’n meicrowefan: https://hmctsjobs.co.uk/trainee-legal-adviser/ i weld ein pecyn atyniadau a gweld beth sydd gan ein cynghorwyr cyfreithiol i’w ddweud am y rôl.