Swydd Ddisgrifiad (SDd)

Band 4

Proffil Grŵp - Arbenigwr-weinyddwr Busnes (BAS)

Swydd Ddisgrifiad - BAS: Uwch-weinyddwr Achos

OMU



Cyfeirnod y Ddogfen OR-JES-2434-JD-B4: BAS: Senior Case Administrator OMU v4

Math o Ddogfen Rheoli

Fersiwn 4.0

Dosbarthiad Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi 04/08/21

Statws Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Y Tîm Sicrhau a Chefnogi Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer

y Disgrifiad Swydd





OR-JES-2434-JD-B4: BAS: Senior Case Administrator OMU v4



Swydd Ddisgrifiad

Teitl y Swydd

Uwch-weinyddwr Achos - Uned Rheoli Troseddwyr (OMU)

Proffil Grŵp

Arbenigwr-weinyddwr Busnes

Lefel yn y Sefydliad

Cyflawni

Band

4



Trosolwg o’r swydd

Swydd Weinyddol mewn sefydliad yw hon


Mae'r rôl hon wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer Sefydliad Lleol sydd â throsiant uchel

Crynodeb

Yn y rôl hon, gweithredir fel Uwch-weinyddwr Achos, yn adrodd yn uniongyrchol i Reolwr yr Hwb Band 5. Mae'r rôl yn ymwneud â gwirio a chasglu amrywiol brosesau mandadol yn adran OMU y tîm Gweinyddu Achos.


Bydd deilydd y swydd yn ddirprwy i Reolwr yr Hwb Band 5 o ran gwaith Dalfa a bydd yn gyfrifol am wirio PSIs Cyfrifo Dedfrydau a sicrhau y cydymffurfir â nhw.


Yn ogystal â rôl y gweinyddwr achos safonol, mae'r rôl yn ymwneud â rheoli llwyth achos wedi'i ddyrannu.


Swydd anweithredol nad oes iddi gyfrifoldebau rheoli llinell yw hon. Mae'r rôl hon yn cylchdroi.

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd ymgymryd â'r cyfrifoldebau, gweithgareddau a'r dyletswyddau a ganlyn:


* Trefnu, llunio a chynnal cofnodion cywir ar gyfer y

maes gwaith e.e. rhestri gwirio ac ati.

* Ymgymryd â'r dasg weithrediadol sy'n gysylltiedig â

gwaith Rheoli Troseddwyr. Mae hyn yn cynnwys

prosesu'r gwaith papur a ganlyn yn barod i'r

Rheolwr Hwb ei wirio a'i basio ymlaen:

* Adroddiad Gadael / Adroddiad Cyn-gadael

* Ceisiadau am fechnïaeth

* Rhyddhau ar Drwydded Dros Dro (ROTL)

* Cyrffyw Cyfyngu i'r Cartref (HDC)

* Asesu Troseddwyr a Rheoli Dedfrydau (OaSys)

* Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn

y Cyhoedd (MAPPA)

* Ailgategoreiddio

* Cyfrifo dedfrydau, yn cynnwys gwiriadau

cychwynnol ar ymddygiad

* Apeliadau

* Cofrestr Troseddwyr Rhyw Treisgar (VISOR)

* Cynllunio Asesiadau Risg Amlasiantaethol

(MARAP)

* Dyfarniadau

* Carcharorion Dedfrydau Amhenodol

* Ceisiadau am barôl

* Gohebiaeth Gyfreithiol

* Ceisiadau am Drwydded

* Rhyddhau Dros Nos i Adsefydlu

* Dirwyon Carcharorion

* Gwladolion Tramor /Allgludiadau/Mewnfudo

* Risg i Blant/ Diogelu Plant

* Gorchymynion Aflonyddu/Atal

* Gwaith Gweinyddol Categori A

* Gwaith papur adalw

* Amddiffyn y Cyhoedd

* Sicrhau fod rhestr y tasgau dyddiol mandadol wedi'i

chwblhau a bod tasgau wedi'u neilltuo'n deg yn y

tîm.

* Sicrhau fod yr holl dîm wedi cwblhau'r holl waith

papur yn ymwneud â rhyddhau a throsglwyddo.

* Bydd yn gyfrifol am wirio PSIs Cyfrifo Dedfrydau a

sicrhau y cydymffurfir â nhw

* Bod yn SPOC ar gyfer pob gohebiaeth i'r tîm,

blaenoriaethu a dosbarthu i'r person priodol neu i'r

adran berthnasol yn y sefydliad e.e. rheoli

mewnflwch y ddalfa/ mewnflwch yr OMU.

* Gohebu gyda rhanddeiliaid ac asiantaethau

perthnasol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o

wybodaeth ac y caiff ei rhannu'n ddigonol e.e.

cysylltu gyda rheolwyr achos PPCS yng nghyswllt

achosion parôl penodol

* Cynnal a gwirio cronfeydd data sefydliadau,

systemau ffeilio â llaw a llyfrau lóg o wybodaeth

gydag ymatebion o fewn amser, llunio adroddiadau

yn ôl y gofyn e.e. Safon data, Cronfeydd data

llwythi gwaith, Llyfrau lóg HDC ac ati.

* Trefnu unrhyw gyfarfodydd, yn cynnwys paratoi

gwaith papur, cofnodion a phwyntiau gweithredu

e.e. Cyfarfodydd OMU misol, IRMT.

* Bod yn weinyddwr arbenigol a pharhau i ddatblygu

sgiliau a dealltwriaeth o'r holl brosesau. Arwain ar

waith lletya a chymhathu prosesau neu bolisïau

newydd yn y swyddogaeth.

* Datblygu arweiniadau hyfforddi a chymhorthion cof

i'w defnyddio wrth ddatblygu a hyfforddi

cydweithwyr iau.

* Bod yn fentor/cydgysylltydd sefydlu i bawb sy'n

dechrau o'r newydd yn y swyddogaeth, gan weithio

i ddatblygu eu sgiliau cychwynnol a gweithio i

gynyddu gwybodaeth a gallu. Nodi unrhyw feysydd

pryder/diffygiol a rhoi gwybod i reolwr yr hwb y

cyfle cyntaf.

* Mewn cydweithrediad â Rheolwr yr Hwb, adolygu

prosesau newydd a chyfredol a rhoi cyngor

arbenigol i Bennaeth yr Adran ac ymgynghori gydag

ef/hi ar gyfer trafodaeth am brosesau newydd a

phenderfyniadau cynllunio ac yn ystod y

drafodaeth ei hun.


Ymgymryd â thasgau rheoli/gweinyddol eraill, yn cynnwys:


* Cwblhau ffurflenni monitro ar gyfer y maes gwaith

e.e. cysylltu â Rheolwr yr Hwb.

* Paratoi gwaith papur i'w rheolwr ei wirio, gan gynnal

20% o'r holl waith gwirio cychwynnol yn ôl y gofyn

ac adrodd ar dueddiadau a datblygu datrysiadau i'w

cyflwyno i Reolwr yr Hwb. Cwblhau gwaith gwirio

bob dau ddiwrnod.

* Pan fo gofyn, mynd i gyfarfodydd ar ran ei (h)uned.

* Fel uwch-weinyddwr, gweithio i gyflwyno arloesedd

a newid.

* Gweithio ochr yn ochr â Rheolwr yr Hwb a rhoi

gwybod iddo am arfarniadau staff blynyddol/ei

gynghori yn ystod yr arfarniadau hyn.

* Rolau a chyfrifoldebau ad-hoc, yn ôl y gofyn.




Mae'r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio'r swydd fel ag y mae ar hyn o bryd ac nid bod yn gynhwysfawr yw ei bwriad. Mae disgwyl i ddeilydd y swydd dderbyn newidiadau rhesymol a thasgau ychwanegol o lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Efallai y bydd yn rhaid ailedrych ar addasiadau sylweddol dan y Cynllun Addasu Swyddi a byddir yn eu trafod, yn y lle cyntaf, gyda deilydd y swydd.


Gallu i gyflawni pob agwedd lafar o'r rôl yn hyderus trwy gyfrwng y Saesneg neu (lle nodir hynny yng Nghymru) y Gymraeg.


Ymddygiad

* Newid a Gwella

* Cyfathrebu a Dylanwadu

* Gweithio gyda'ch Gilydd

* Rheoli Gwasanaeth o Safon

* Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Cryfderau

Cynghorir dewis cryfderau yn lleol, yr argymhelliad yw 4-8.

Profiad

* Gwybodaeth a phrofiad ymarferol mewn gwaith Dalfa, yn cynnwys hanes profedig o gyfrifo dedfrydau a swyddogaethau eraill o Weinyddu Achos ac wedi bod yn gweithio yn yr amgylchedd hwnnw ers dros 12 mis.

Gofynion Technegol

* Wedi cwblhau hyfforddiant Cyfrifo Dedfrydau i Lefel

Uwch.

* Rhaid i ddeilyddion y swydd gwblhau hyfforddiant

penodol yn eu harbenigedd weinyddol unwaith y

byddant yn eu swydd

* Wrth drosglwyddo i sefydliad Personau Ifanc, bydd

yn ofynnol i ddeilyddion y swydd lwyddo mewn

asesiad i ddangos eu bod yn addas i weithio gyda

Phobl Ifanc.

Gallu

* Gallu ymdrin â staff ar bob lefel yn effeithiol a

phendant

* Gallu defnyddio MS Word ac MS Excel yn fedrus

* Casglu a dadansoddi gwybodaeth



Cymhwysedd Sylfaenol

* Byddir yn gwirio pob ymgeisydd o ran diogelwch a

hunaniaeth cyn iddynt ddechrau yn eu swydd

* Bydd pob ymgeisydd allanol ar brawf am chwe mis.

Bydd ymgeiswyr mewnol ar brawf onid ydynt eisoes

wedi treulio cyfnod prawf yn yr HMPPS.

* Mae'n ofynnol i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod

o grŵp neu sefydliad yr ystyria'r HMPPS ei fod yn

hiliol.




Lwfansau Oriau Gweithio

(Oriau Anghymdeithasol)

Wythnos weithio 37 awr yr wythnos





































OR-JES-2434-JD-B4: BAS: SENIOR CASE ADMINISTRATOR OMU v4.0



Proffil Llwyddiant

Ymddygiad






Cryfderau


Cynghorir dewis cryfderau yn lleol, yr argymhelliad yw 4-8

Gallu

Profiad

Technegol



Gwella a Newid


Gallu ymdrin â staff ar bob lefel yn effeithiol a phendant

Gwybodaeth a phrofiad ymarferol mewn gwaith Dalfa, yn cynnwys hanes profedig o gyfrifo dedfrydau a swyddogaethau eraill o Weinyddu Achos ac wedi bod yn gweithio yn yr amgylchedd hwnnw ers dros 12 mis.

Wedi cwblhau hyfforddiant Cyfrifo Dedfrydau i Lefel Uwch

Cyfathrebu a

Dylanwadu


Gallu defnyddio MS Word ac MS Excel yn fedrus


Rhaid i ddeilyddion y swydd gwblhau hyfforddiant penodol yn eu harbenigedd weinyddol unwaith y byddant yn eu swydd


Gweithio gyda'n

Gilydd


Casglu a dadansoddi gwybodaeth


Wrth drosglwyddo i sefydliad Personau Ifanc, bydd yn ofynnol i ddeilyddion y swydd lwyddo mewn asesiad i ddangos eu bod yn addas i weithio gyda Phobl Ifanc.


Rheoli Gwasanaeth o Safon





Gwneud Penderfyniadau Effeithiol





Dewiswch eitem





Dewiswch eitem





















OR-JES-2434-JD-B4: BAS: SENIOR CASE ADMINISTRATOR OMU v4.0