Cefndir
Mae GLlTEF yn sefydliad sy'n newid yn barhaus. Mae arweinyddiaeth gref yn elfen hollbwysig yn llwyddiant y sefydliad. Fel arweinydd o fewn GLlTEF mae’n rhaid i ddeiliad y swydd ddarparu cyfeiriadau a ffocws clir, gan hyrwyddo newidiadau fydd yn sicrhau mwy o effeithlonrwydd. Mae Cyfarwyddwyr GLlTEF yn disgwyl i bob rheolwr weithredu mewn diwylliant agored a gonest, gan ddangos ymrwymiad i newid drwy ymgysylltu a grymuso, a thrwy sicrhau canlyniadau.
Fel Rheolwr Gweithrediadau o fewn GLlTEF rhaid i ddeiliad y swydd ddarparu cyfeiriad a ffocws clir, gan hyrwyddo'r newidiadau sy'n sicrhau mwy o effeithlonrwydd. Mae hyn i'w gyflawni drwy ymrwymiad i bedair egwyddor allweddol: newid parhaus, egwyddorion LEAN, rheoli ansicrwydd a gwella perfformiad. Rhaid i bawb a benodir i rolau newydd yn GLlTEF fod wedi ymrwymo’n llwyr i’r rhain a dangos tystiolaeth o hynny yn eu cais.
Byddwch yn atebol am weithrediadau o ddydd i ddydd ar draws nifer o swyddogaethau o fewn y clwstwr.
Datblygu a gweithredu strategaethau sy'n sicrhau newid sefydliadol.
Sefydlu gwasanaeth cyson a ffocws ar gwsmeriaid.
Sicrhau defnyddio adnoddau yn effeithiol i fyw o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.
Dylunio, adeiladu a chynnal cyswllt effeithiol gyda’r farnwriaeth, grwpiau defnyddwyr a sefydliadau cynrychioliadol, gan gynrychioli rheolwr y clwstwr lle bo angen.
Gweithio gyda rheolwyr ar draws y clwstwr / rhanbarth i sicrhau cyflawni traws-Glwstwr cydlynus.
Gweithredu fel Swyddog Cyfrifol yn ôl y gofyn.
Sefydlu a gwella perthynas waith effeithiol gyda'r farnwriaeth, gan gefnogi asiantaethau, grwpiau gwirfoddol a defnyddwyr. Gweithio gydag asiantaethau i wella lefel y gwasanaeth a gynigir i ddefnyddwyr.
Rhoi cyfarwyddyd a chefnogaeth glos i Reolwyr Cyflawni, gan osod blaenoriaethau lleol sy'n gyson â blaenoriaethau Rhanbarthol a chenedlaethol.
Defnyddio Cynlluniau Gweithredu Arolwg Staff / cyswllt TU lleol / Fforymau Staff i effeithio ar berthynas waith dda gyda staff a gwella darparu gwasanaethau a morâl / cymhelliant staff
Gweithio ar y cyd â phob rhan o'r busnes i ddefnyddio MI yn llawn, gan sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu monitro, eu hadolygu a'u cyflawni.
Rheoli galwadau croes drwy ail-flaenoriaethu a thrafod, gan ddefnyddio cryfderau unigolion a thimau i sicrhau canlyniadau.
Bod yn rhagweithiol wrth adolygu prosesau i nodi gwelliannau, deall a rheoli risgiau cysylltiedig; adeiladu ar gryfderau tîm i sicrhau canlyniadau busnes a chynnwys y tîm wrth ddatblygu cynlluniau a negeseuon cyson.
Bod yn atebol am sicrhau bod llywodraethiant, cofrestrau rheoli risg a chynlluniau wrth gefn ar waith ac yn cael eu diweddaru'n flynyddol/misol.
Sicrhau cydymffurfiaeth â gwerthoedd, polisïau a gweithdrefnau GLlTEF (gan gynnwys amrywiaeth, presenoldeb a disgyblaeth, Rhaglen Sicrwydd GLlTEF) a chyfrannu at ddatblygiad parhaus.
Ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Cyfrifol. Gall hyn gynnwys unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol:
Adnabod a gweithredu atebion i broblemau lleol
Adnabod risgiau
Sicrhau cydymffurfiaeth TG/Gweithfan bob amser
Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion iechyd a diogelwch
Sicrhau bod asesiadau risg yn digwydd ar adegau priodol
Cadw cofrestr Asedau gyfredol
Sicrhau bod unrhyw broblemau ynghylch lefel y gwasanaeth ar gyfer Rheoli Cyfleusterau Ystadau yn cael eu cyfeirio i Adran Ystadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder
Rheoli cwynion yn adeiladol o fewn amserlenni penodol, a sicrhau cymryd camau cywiro lle bo angen.
Darparu arweinyddiaeth weladwy i reolwyr a staff a modelu ymddygiadau ymgysylltiol a herio ymddygiadau nad ydynt yn ymgysylltu mewn rheolwyr.
Arwain drwy esiampl, hyfforddi, cefnogi a datblygu staff a'u tywys drwy newid sylweddol ac arwyddocaol.
Sicrhau bod rheolwyr ar draws y clwstwr yn cefnogi'r defnydd parhaus o TIB's a SOP's a grymuso a datblygu staff i gyflawni'r safonau perfformiad uchaf.
Sicrhau cymhwyso polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol MoJ.
Datblygu cynigion arloesol ar gyfer cyflwyno newid polisi, gan dynnu ar yr arferion gorau ar gyfer rheoli newid.
Gweithio gyda rheolwyr Cyflenwi Clwstwr i ddatblygu cynlluniau busnes ar gyfer y Clwstwr
Gosod blaenoriaethau ac amcanion lleol o fewn cyd-destun strategaethau a chynlluniau cenedlaethol/rhanbarthol/ardal
Nodi a gweithredu atebion i broblemau lleol cymhleth.
Gosod neu gomisiynu gwaith i adolygu a gwella prosesau lleol.
Asesu effaith polisïau neu brosesau newydd ar berfformiad presennol.
Meddu ar wybodaeth gynhwysfawr am swyddogaethau yr ymgymerir â hwynt o fewn y Clwstwr, i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau.
Darparu swyddogaethau penodol fel y cyfarwyddir gan reolwyr llinell yn unol â'r SOP ar gyfer darparu'r gwasanaeth hwnnw.
Monitro a rheoli gwariant (fel y dirprwyir y swyddogaeth honno), gan sicrhau bod proffiliau'n cael eu bodloni a sicrhau effeithlonrwydd.
Sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio’n effeithiol o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.
Adrodd yn uniongyrchol i reolwr y Clwstwr.
Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd weithio mewn ffordd hyblyg a chyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y gofynnir amdanynt yn rhesymol gan reolwr llinell sy'n gymesur â gradd a lefel cyfrifoldeb y swydd hon.
Apwyntiad Lleoli
Bydd penodiadau a’r rhestr wrth gefn ar gyfer yr ymgyrch hon yn cael ei rheoli yn unol â dewis(iadau) lleoliad, fel y nodir yn eich cais. Byddwn yn penodi yn nhrefn rhestr teilyngdod ar gyfer pob lleoliad a amlinellir yn y swydd wag ac yn cynnal rhestr o leoliadau wrth gefn ar wahân ar gyfer pob un o'r lleoliadau hyn. Ar ôl i benodiadau gael eu gwneud gan ddefnyddio’r broses benodi hon, bydd unrhyw ymgeiswyr sy’n weddill sy’n bodloni’r meincnod ar gyfer y rôl yn aros ar y rhestr wrth gefn lleoliadol yn unol â'u dewisiadau am 12 mis. Nodwch ddewisiadau lle rydych chi'n barod i weithio yn unig. Os ydych yn cael cynnig rôl o’r rhestr wrth gefn ar gyfer y dewis lleoliad a nodir yn eich cais ac yn ei wrthod, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y rhestr wrth gefn ar gyfer y swydd wag, ar draws yr holl ddewisiadau lleoliad.
Cyflawni Gweithredol yn GLlTEF:
Mae'r rôl hon yn rhan o'r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol. Gweithwyr proffesiynol cyflenwi gweithredol yw wyneb cyhoeddus y llywodraeth, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd mewn amrywiaeth o rolau. Maent yn gweithio mewn llawer o wahanol adrannau ac asiantaethau ar draws y DU, gan ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid mewn:
Rolau wyneb yn wyneb yn GLlTEF er enghraifft tywysydd llys.
Rolau Canolfan Gyswllt yn GLlTEF er enghraifft cynghorwyr canolfannau galwadau
Rolau prosesu yn GLlTEF er enghraifft staff yng Nghanolfan Hawliadau am Arian y Llysoedd Sirol a Gweinyddiaeth y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Mae bod yn rhan o'r proffesiwn cyflawni gweithredol yn golygu perthyn i gymuned drawslywodraethol o bobl. Bydd hyn yn cynnig mynediad i chi at wybodaeth am safonau proffesiynol, datblygu sgiliau a chymwysterau i'ch helpu i barhau i wella eich datblygiad a'ch perfformiad ac ehangu eich opsiynau gyrfa.