Disgrifiad Swydd (DS)

Band Y Gwasanaeth Prawf 4

Cyfarwyddiaeth: Gwasanaeth Prawf

Disgrifiad Swydd: Swyddog Comisiynu a Phartneriaethau






Cyf. Dogfen PS-JES-0091 Commissioning & Partnerships Officer

Math o Ddogfen Rheoli

Fersiwn 2.0

Dosbarthiad Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi 13 Rhagfyr 2023
Statws
Sylfaenol

Cynhyrchwyd gan Awdurdodwyd gan




Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd



Tîm Gwobrwyo


Tystiolaeth DS














PS-JES-0091 Commissioning & Partnerships Officer

Disgrifiad Swydd

Teitl y Swydd

Swyddog Comisiynu a Phartneriaethau

Cyfarwyddiaeth

Y Gwasanaeth Prawf

Band

4









Trosolwg o'r swydd

Diben y tîm Comisiynu a Phartneriaethau yw gweithio'n agos gyda rheolwyr gweithredol a chontractau yn y rhanbarth, cydweithwyr masnachol, arweinwyr polisi, partneriaid/comisiynwyr allanol, darparwyr a defnyddwyr gwasanaeth i nodi anghenion gwasanaeth, adolygu gwasanaethau presennol, meithrin partneriaethau, datblygu gwybodaeth ac adeiladu arbenigedd o fewn y busnes, dylunio gwasanaethau newydd, dod o hyd i ddarparwyr ac yna monitro effeithiolrwydd gwasanaethau a gomisiynwyd i hyrwyddo atebion arloesol a strategol a darparu gwasanaethau o ansawdd, â gwerth am arian sy'n diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth ac yn lleihau aildroseddu.

Bydd y Swyddog Comisiynu a Phartneriaethau yn datblygu a gweithredu cynlluniau a chynhyrchion comisiynu a bydd yn gyfrifol am gyflawni gweithgareddau comisiynu a phartneriaeth. Byddant yn arwain ar weithgareddau ysgrifenyddiaeth, cynllunio ac ymchwil i gyflawni comisiynu a/neu ail gomisiynu gwasanaethau ar draws y rhanbarth.

Bydd Rheolwr Comisiynu a Phartneriaethau yn rheolwr llinell iddynt, a fydd yn arwain ar y ddarpariaeth ar draws yr ystod lawn o wasanaethau.

Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn cynhyrchu ac yn gweithredu cynlluniau comisiynu penodol sy'n cynorthwyo strategaeth gomisiynu

ranbarthol.

Byddant yn gyfrifol am ddatblygu adroddiadau a briffiau ar gyfer uwch reolwyr, arweinwyr rhanbarthol a phartneriaid lleol/rhanbarthol i gynorthwyo monitro ac adrodd ar strategaeth gomisiynu ranbarthol a chynlluniau comisiynu penodol.

Byddant yn cefnogi staff gweithredol a rheolwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau ar draws yr ystod lawn o wasanaethau. Gallai hyn gynnwys cynnig ymgynghoriaeth a chyngor, darparu hyfforddiant a briffiau lleol.

Byddant yn cynorthwyo'r Rheolwr Comisiynu a Phartneriaethau i ymgymryd â monitro cyllidebol ac ariannol ar gyfer prosiectau comisiynu.

Byddant yn dirprwyo ar ran y Rheolwr Comisiynu a Phartneriaeth a HoCI pan ofynnir amdano.


















































PS-JES-0091 Commissioning & Partnerships Officer

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni'r cyfrifoldebau, gweithgareddau a dyletswyddau canlynol:

  • Coladu a darparu dadansoddiad meintiol ac ansoddol o

ddata anghenion a galw i gynorthwyo Rheolwyr Comisiynu a Phartneriaethau a'r Tîm Integreiddio Cymunedol ehangach, gan gynnwys cynnal grwpiau ffocws gyda staff a defnyddwyr gwasanaeth.

  • Drafftio a diwygio manylebau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau newydd a phresennol a chynorthwyo datblygu portffolio o fanylebau gwasanaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a chreu Memoranda Cyd-ddealltwriaeth (MOU) ac adroddiadau i'r Bwrdd.

  • Cyfrifol am ddatblygu systemau adrodd rhanbarthol a lleol i fonitro effeithiolrwydd trefniadau comisiynu presennol ac argaeledd gwasanaethau lleol i lywio datblygiad gwasanaethau, adolygiadau a chynllunio.

  • Rheoli cyfranogiad rhanbarthol mewn prosesau grantiau a chaffael,

gan gynnwys trefnu cynhesu'r farchnad ac ymgysylltu, cynhyrchu dogfennau grant a chaffael allweddol a gwerthuso cynigion.

  • Darparu cymorth ysgrifenyddol i lywodraethu rhanbarthol, trawsranbarthol ac amlasiantaeth neu grwpiau prosiectau a

byrddau ag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol.

  • Cyfrifol am drefnu a hwyluso digwyddiadau a chyfarfodydd rhanddeiliaid ac ymgysylltu a chynhyrchu cofnodion a chamau gweithredu amserol.

  • Cyfrifol am sefydlu perthnasoedd cynhyrchiol ac effeithiol

â rhanddeiliaid mewnol ac allanol perthnasol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol yn unol â'r ardal ddynodedig i gynorthwyo gweithgaredd comisiynu.

  • Datblygu, cynnal a diweddaru cysylltiadau a chytundebau
    partneriaeth rhanbarthol a sicrhau bod y rhain yn gysylltiedig â

chynllunio busnes ar gyfer y rhanbarth, yn ogystal â diweddaru dogfennau perthnasol ar gyfer cysylltiadau o fewn portffolio’r bartneriaeth.

  • Ymgymryd â, arwain a rheoli gwaith prosiect penodol fel y cyfarwyddir gan y Rheolwr Comisiynu a Phartneriaethau a/neu Bennaeth Integreiddio Cymunedol.

  • Mynychu cyfarfodydd a chynrychioli'r Rheolwr Comisiynu a Phartneriaethau pan fo angen, gan arddangos dealltwriaeth o'r Gwasanaeth Prawf, y Rhanbarth a'r materion pwnc bob amser.

  • Hyrwyddo diwylliant o arloesi a gwelliant parhaus wrth gynnal adolygiadau a gwneud argymhellion yn ôl yr angen.

  • Gweithredu a rheoli prosesau comisiynu llawn gan gynnwys y cylch comisiynu, cyfranogiad rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gwirio cynnydd gwahanol gamau o'r gwaith sy'n cael ei gwblhau yn barhaus a bod yn wyliadwrus o ran amserlenni. Codi pryderon i'r
    Rheolwr Comisiynu a Phartneriaethau cyn y dyddiadau cau.



































































PS-JES-0091 Commissioning & Partnerships Officer


  • Cynorthwyo ar y gwaith gydag Adrannau Masnachol, Ffynonellau a Chaffael yr MOJ i ddatblygu strategaethau ar gyfer comisiynu gwasanaethau.

  • Ymgymryd ag ymchwil, cynhesu'r farchnad, ymgymryd â'r farchnad,

negodi.

  • Creu manylebau gwasanaeth, datblygu cwestiynau technegol

ar gyfer cystadlaethau, dylunio mecanweithiau talu a sicrhau bod galluogwyr gwasanaethau fel TUPE a rhannu gwybodaeth yn cael eu hystyried.

  • Cynnal gwerthusiadau cynigion a sesiynau cymedroli.

  • Darparu cymorth i symudiadau contractau.

  • Cyfrifol am sicrhau bod yr holl weithgarwch Comisiynu a

Phartneriaethau'n cynnwys ac yn cydymffurfio â rheoliadau, polisïau a phrosesau cydraddoldeb. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod y dadansoddiad cydraddoldeb yn cael ei gwblhau a'i adolygu i'w gynnwys yn y Cynllun Comisiynu Rhanbarthol.

  • Cynorthwyo ar ddatblygu a chefnogi sefydliadau partner gyda'u cynefino yn y Fframwaith Dynamig.

  • Gweithio gydag arweinwyr Rhanbarthol a chydweithwyr PDU i ddatblygu ymgysylltu â Phobl ar Brawf i sicrhau bod gwasanaethau a gomisiynwyd yn cyd-fynd ag agenda EPOP, gan ymgorffori llais Pobl ar Brawf yn natblygiad gwasanaethau.

  • Cynorthwyo ar Reoli Contractau contractau a gomisiynwyd
    ac a gyd-gomisiynwyd lle bo’r angen, gan gynnwys pob gweithgaredd rheoli contract safonol.

  • Mewnbynnu i arolygiadau, gweithio gydag arolygwyr OSAG a HMIP

a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith.

  • Gweithio gyda Swyddogion a Rheolwyr Comisiynu a Phartneriaeth

yn genedlaethol i sicrhau bod gwasanaethau a gomisiynwyd yn cael eu halinio ar sail ranbarthol, a bod y gwerth a'r arfer gorau yn cael eu cyflawni.

  • Cymryd y rôl arweiniol a bod yn atebol am gychwyn cytundebau rhannu data, DPIAs, DAs a'r holl gytundebau rhannu gwybodaeth eraill.

  • Ymgysylltu ag a chydlynu rhwng darparwyr a'r Arweinydd Sicrwydd Gwybodaeth ar gyfer cwblhau'r DPIA.

  • Ymgymryd â monitro cyllidebol ac ariannol ar yr holl

gontractau wedi'u comisiynu ac wedi'u cyd-gomisiynu.

  • Cynorthwyo gyda sefydlu a hyfforddi staff newydd a

phresennol.

  • Perchnogi'r broses ar gyfer Seiberddiogelwch i sicrhau

cwblhau cyn lansio gwasanaethau i'r tîm gweithredu, gan gynnwys arwain partneriaid allanol a gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr mewnol.

Mae'r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio'r swydd fel y mae

ar hyn o bryd ac ni fwriedir iddynt fod yn gynhwysfawr. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn newidiadau rhesymol a thasgau ychwanegol o lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Efallai y bydd angen ailystyried addasiadau sylweddol o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi a byddant yn cael eu trafod yn y lle cyntaf gyda deiliad y swydd.
































































PS-JES-0091 Commissioning & Partnerships Officer


Y gallu i gyflawni pob agwedd lafar ar y rôl yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (lle nodir yng Nghymru) y Gymraeg.








Meini Prawf Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil



Ymddygiadau

  • Gweld y Darlun Mawr

  • Cyflawni ar Gyflymder

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Gweithio Gyda'n Gilydd

  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd

  • Newid a Gwella

Cryfderau

(Noder: rydym yn argymell eich bod yn dewis 4 i 8 cryfder yn lleol - dewiswch o'r rhestr o ddiffiniadau cryfderau'r Gwasanaeth Sifil ar y

fewnrwyd.

Gallu


Profiad

  • Profiad o gomisiynu a/neu ail gomisiynu gwasanaethau, gan gynnwys asesu angen, adolygu gwasanaethau a datblygu manylebau gwasanaeth.

  • Ymwybyddiaeth o gaffael a grantiau o fewn cyd-destun y sector

cyhoeddus

  • Profiadol ym maes gweithio mewn partneriaeth.

  • Ymwybyddiaeth o ddiogelwch cymunedol, cyfiawnder troseddol, gofal cymdeithasol, tai neu leoliad gofal iechyd.

  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da.

  • Profiad o gynnal ymchwil a llunio opsiynau,

ynghyd â galluoedd datrys problemau.

  • Profiad o reoli prosiectau.

Dymunol

  • Profiad profedig o weithio mewn maes diogelwch cymunedol, cyfiawnder troseddol, gofal cymdeithasol, tai neu leoliad gofal iechyd.

  • Dealltwriaeth dda o wasanaethau i droseddwyr a ddarperir yn y

gymuned neu drwy'r giât (ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar).

Technegol



















































PS-JES-0091 Commissioning & Partnerships Officer

Isafswm Cymhwysedd

Peidiwch â newid y blwch hwn

  • Mae pob ymgeisydd yn destun gwiriadau diogelwch ac hunaniaeth

cyn ymgymryd â'r swydd.

  • Mae pob ymgeisydd allanol yn destun cyfnod prawf o

6 mis. Mae ymgeiswyr mewnol yn destun prawf os nad ydynt eisoes wedi treulio cyfnod prawf o fewn HMPPS.

  • Mae'n ofynnol i bob aelod o staff ddatgan a ydynt yn aelod
    o grŵp neu sefydliad y mae HMPPS yn ei ystyried yn

hiliol.
















Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol) Lwfansau

Gadewch yn Wag

I'w ddefnyddio gan y Tîm JES yn unig















































PS-JES-0091 Commissioning & Partnerships Officer