Disgrifiad Swydd
Band 4

Proffil Grŵp - Swyddog Carchardai Arbenigol

Disgrifiad Swydd - Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar





Cyf. y Ddogfen Math o Ddogfen Fersiwn Dosbarthiad Dyddiad Cyhoeddi

Statws

Cynhyrchwyd gan

Awdurdodwyd gan Tystiolaeth ar gyfer y DS






OR-JES-2254-JD-B4 : Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar f6.0

Rheolaeth

6.0

Swyddogol 17/04/2025 Gwaelodlin


Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi




Y Tîm Dyfarnu

















OR-JES-2254-JD-B4 : Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar f6.0




Disgrifiad Swydd



Teitl y Swydd

Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar

Proffil y Grŵp

Swyddog Carchardai Arbenigol

Lefel yn y Sefydliad

Cyflenwi 3-4

Band

4











Trosolwg o’r Swydd

Bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn cyfrannu at y gwaith o reoli ac asesu rhai carcharorion risg isel i ganolig ac yn paratoi, gweithredu, adolygu a gwerthuso eu cynlluniau dedfrydu gyda nhw. Bydd deiliad y swydd yn meithrin perthnasoedd effeithiol, priodol a chefnogol gyda’r carcharorion, gyda’r nod o leihau aildroseddu.

Bydd deiliad y swydd yn gweithredu mewn rôl gefnogol i swyddogion prawf yn unig wrth reoli achosion carcharorion risg ganolig i uchel. Bydd deiliad y swydd wedi cael hyfforddiant dethol a hyfforddiant ychwanegol i gyflawni’r swydd gyflenwi arbenigol hon fel Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar. Swydd weithredol yw hon heb unrhyw gyfrifoldebau rheoli llinell; fodd bynnag, bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldebau goruchwylio pan fo angen.

Mae gan yr holl staff gyfrifoldeb i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rhaid i ddeiliad y swydd ymgymryd â’r lefel briodol o hyfforddiant ac mae’n gyfrifol am sicrhau ei fod yn deall ac yn gweithio o fewn polisïau diogelu’r sefydliad.

Bydd yn cynnal gweithgareddau/dyletswyddau rheolaidd gyda charcharorion.

Crynodeb

Dyma rai o’r tasgau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r swydd hon:

  • Goruchwylio a rheoli carcharorion yn weddus a diogel wrth gyflawni pob gweithgaredd.

  • Deall, gweithredu a chydymffurfio â pholisïau lleol a chenedlaethol.

  • Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol gyda'r carcharorion a’r staff.

  • Cynnal a diweddaru systemau yn unol â chytundebau lleol.

  • Paratoi dogfennau perthnasol i reolwyr at ddibenion gwirio/sicrhau ansawdd.

  • Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd perthnasol fel y bo'r angen.

  • Arfer pwerau Cwnstabl.

  • Cynnal chwiliadau ar garcharorion, staff ac ymwelwyr yn ôl y gofyn.

  • Darparu ymateb ‘cyntaf ar y safle’ mewn digwyddiadau.

Bydd yn asesu ac yn rheoli’r risg a berir gan droseddwyr i ddiogelu dioddefwyr troseddau a’r cyhoedd drwy’r canlynol:

  • Rhoi gwybodaeth a chyngor i asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill a sefydliadau partner.

  • Goruchwylio carcharorion tra byddant yn y carchar.

  • Cyfrannu at reoli risg.

  • Gweithio gydag asiantaethau a grwpiau eraill i atal aildroseddu a diwallu anghenion dioddefwyr a throseddwyr.












































OR-JES-2254-JD-B4 : Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar f6.0

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Cwblhau ystod lawn o dasgau rheoli troseddwyr gydag achosion risg isel i ganolig.

  • Ni fydd unrhyw berchnogaeth ar achosion risg uchel, ond rhoddir cymorth i swyddogion prawf wrth reoli achosion carcharorion risg uchel pan fo angen.

  • Fel Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar, bod yn rhan o’r holl brosesau perthnasol yn y carchar, fel Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm a lleihau trais/gwrth-fwlio ar gyfer y rheini sydd yn eich llwyth achos, os yw hyn yn berthnasol.

  • Gweithredu fel Rheolwr Achos Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm ar gyfer unigolion os yw’n briodol (ni ddylid defnyddio Rheolwyr Troseddwyr yn y Carchar fel Rheolwyr Achosion Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm fel mater o drefn, dim ond pan fo’n briodol gwneud hynny).

  • Cyfweld â charcharorion o fewn amserlenni penodol ar ôl iddynt gyrraedd. Gosod ac adolygu targedau gyda’r carcharorion a diweddaru'r nodiadau rheoli achosion ar PNOMIS neu systemau TG perthnasol.

  • Defnyddio'r System Asesu Troseddwyr (OASys) i nodi risgiau a rheoli troseddwyr yn briodol.

  • Cael rhagor o wybodaeth os oes angen gan asiantaethau allanol i gwblhau adroddiad OASys cynhwysfawr.

  • Arwain y cyfarfod cynllunio dedfryd er mwyn paratoi ac adolygu cynlluniau priodol.

  • Cydlynu’r gweithgareddau o fewn y cynllun dedfrydu drwy gysylltu â charcharorion ac adrannau ac asiantaethau eraill, yn cynnwys casglu a chyfnewid gwybodaeth a deall/ymchwilio i farn anghyson am y cynnydd a wnaed gan y carcharorion.

  • Annog a chefnogi carcharorion i gymryd rhan mewn addysg, ymyriadau
    a gweithdai fel y’u diffinnir yn y cynllun dedfrydu. Datblygu strategaethau i helpu carcharorion i oresgyn eu hamharodrwydd i gymryd rhan.

  • Darparu cyngor ac asesiad proffesiynol, yn cynnwys adroddiadau ysgrifenedig i asiantaethau cyfiawnder troseddol a sefydliadau partner.

  • Cysylltu â Rheolwyr Troseddwyr Cymunedol ynghylch Rhyddhau ar Drwyddedau Dros Dro (ROTL) a Chyrffyw Cyfyngu i’r Cartref (HDC). Gwneud argymhellion i Reolwr y Carchar ar addasrwydd carcharorion i gael eu rhyddhau’n gynnar. Hysbysu’r asiantaethau perthnasol am ddyddiadau rhyddhau a chyfeiriad carcharorion yr ystyrir eu bod yn peri risg pan gânt eu rhyddhau.

  • Cefnogi Rheolwyr Troseddwyr Cymunedol i gyflawni cynlluniau i alluogi carcharorion a gaiff eu galw’n ôl i gael eu rhyddhau unwaith eto.

  • Cwblhau’r holl waith papur ar gyfer yr achosion, yn cynnwys gwaith papur sy’n benodol i garcharorion oes a charcharorion ar ddedfrydau canolraddol (ISP) yn unol â’r polisïau a’r safonau perthnasol a’r amserlenni a bennwyd.

  • Tynnu sylw’r Pennaeth Rheoli Troseddwyr neu’r Swyddog Cynorthwyol at unrhyw garcharor sy’n peri pryderon sylweddol yn sgil ei ymddygiad. Gallai’r pryderon ymwneud ag amrywiaeth o faterion, er enghraifft, unrhyw garcharor sydd wedi cyflwyno risg o hunan-laddiad neu hunan-niwed yn y gorffennol, neu os oes unrhyw bryderon heb eu datrys ynghylch dioddefwyr neu droseddau pellach ac aflonyddu hiliol.

  • Cyfrannu at Fyrddau Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) a’u mynychu a gweithio gyda phob asiantaeth allanol berthnasol i ddiogelu'r cyhoedd wrth ryddhau carcharorion o dan MAPPA.

  • Cysylltu â’r adran Gwladolion Tramor neu ag Asiantaeth Ffiniau’r DU ynghylch carcharorion cenedlaethol tramor fel y bo’n briodol.

  • Cynnal gwiriadau cyswllt plentyn er mwyn diogelu’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth ddiogelu berthnasol ag awdurdodau.

  • Ymgymryd â rôl y cynghorydd ailsefydlu ar gyfer carcharorion yn y llwyth achosion penodol. Llunio, datblygu a chynnal y cysylltiadau rhwng y rhaglenni, y cynnydd a gaiff ei wneud gan y cyfranogwyr neu fel arall a llwybr parhaus y carcharor drwy ei ddedfryd.

  • Cydweithio â chydweithwyr a chynnal perthnasoedd tîm effeithiol, yn arbennig gyda Gweithwyr Allweddol.

  • Dangos sgiliau modelu rhag-gymdeithasol drwy atgyfnerthu ymddygiad ac agweddau rhag-gymdeithasol a herio ymddygiad ac agweddau gwrth-gymdeithasol yn gyson.

  • Defnyddio systemau cyfrifiadurol i lunio, diweddaru a chynnal cofnodion a dogfennau eraill o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.



























































OR-JES-2254-JD-B4 : Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar f6.0


  • Gweithio yn unol â nodau a gwerthoedd HMPPS.

Cyflawni tasgau eraill gan gynnwys:

  • Goruchwylio a rheoli carcharorion yn weddus, yn gyfreithiol ac yn ddiogel wrth gyflawni pob gweithgaredd.

  • Arfer pwerau Cwnstabl.

  • Cynnal chwiliadau ar garcharorion, staff ac ymwelwyr yn ôl y gofyn.

  • Ymgymryd â gwaith hebrwng yn allanol.

  • Darparu ymateb ‘cyntaf ar y safle’ mewn digwyddiadau.

  • Cynnal a diweddaru systemau yn unol â chytundebau lleol.

  • Paratoi dogfennau perthnasol ar gyfer rheolwyr at ddibenion gwirio/sicrhau ansawdd.

  • Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd perthnasol fel y bo'r angen.

  • Cwblhau a diweddaru Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng.

  • Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol gyda'r carcharorion a’r staff.

  • Deall a chydymffurfio â pholisïau cenedlaethol/lleol a deddfwriaeth.

Pan fo angen, gweithredu fel Swyddog Goruchwylio yn unol â’r disgrifiadau swydd canlynol:

  • Swyddog Goruchwylio: Diogel, Gweddus a Sicr

  • Swyddog Goruchwylio: Gweithrediadau

  • Swyddog Goruchwylio: Uned Arbennig

  • Swyddog Goruchwylio: Hebrwng Categori A

  • Swyddog Goruchwylio: Trefn

Mae’r rhestr ddyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir iddi fod yn rhestr gynhwysfawr. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg ac a allai fod yn angenrheidiol. Mae’n bosibl y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ystyried y swydd eto o dan y cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hynny’n cael ei drafod yn y lle cyntaf gyda deiliad y swydd.

Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) yn Gymraeg.


































Ymddygiad

  • Cyflawni'n Gyflym

  • Arweinyddiaeth

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cydweithio

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad Hanfodol

  • Rhaid bod yn gymwys mewn gweithdrefnau carcharu, gan gynnwys asesiadau risg deinamig.

  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl sydd wedi profi amrywiaeth o anawsterau cymdeithasol/personol ac o fod yn bwyllog gan ddefnyddio disgresiwn wrth ddelio â materion cyfrinachol a sensitif.

  • Dealltwriaeth o ffactorau yn ymwneud â throseddu, e.e. camddefnyddio sylweddau, problemau llety.

  • Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli achosion ac ymrwymiad iddynt.

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli risgiau/asesiad risgiau yn ymwneud â throseddwyr a’r effaith ar ddioddefwyr trosedd.

  • Profiad o gynllunio a chydlynu gwaith.

  • Profiad o weithio gyda grwpiau neu unigolion er mwyn ysgogi a newid ymddygiad.

  • Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol, gan gynnwys hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y system cyfiawnder troseddol.

  • Profiad o weithio gyda phobl sydd wedi troseddu.



























OR-JES-2254-JD-B4 : Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar f6.0


  • Wedi cael Hyfforddiant Staff Ymwybyddiaeth o Ferched (WASP) os byddwch chi’n gweithio mewn sefydliad i ferched.

  • Wedi cael hyfforddiant Rhaglen Staff Ymwybyddiaeth o’r Ifanc (JASP) ac amddiffyn plant os byddwch chi’n gweithio mewn sefydliad i Bobl Ifanc.

  • Gwybodaeth ymarferol o’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r Safonau Cenedlaethol.

  • Gwybodaeth o Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ac adnoddau asesu risgiau/anghenion.

Gofynion Technegol

  • Cwblhau Hyfforddiant Lefel Mynediad Swyddogion Carchar a chyfnod prawf yn llwyddiannus

  • Mae’n rhaid bod gennych Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Gofal Caethiwo 3

  • Mae’n rhaid eich bod chi wedi derbyn hyfforddiant mewn technegau atal corfforol

  • Dymunol - Cymhwyster/cymwysterau academaidd lefel uwch.

  • Wrth drosglwyddo i sefydliad Pobl Ifanc, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gael ei asesu’n llwyddiannus i ddangos ei fod yn addas i weithio gyda Phobl Ifanc.

Gallu

  • Gallu dadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn gwneud asesiadau a phenderfyniadau.

  • Gallu cyfathrebu’n glir ar lafar ac ar bapur gyda throseddwyr, gweithwyr proffesiynol ac mewn gwrandawiadau fel Byrddau Parôl.

  • Gallu cydymdeimlo’n adeiladol â phobl o gefndiroedd amrywiol.

  • Gallu cwblhau’r holl hyfforddiant gorfodol fel y bo’n ofynnol i gefnogi’r swydd.























Cymhwysedd Sylfaenol

Peidiwch â newid y blwch hwn

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yn HMPPS.

  • Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydyn nhw’n aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.











Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)

Wythnos waith 37 awr (safonol).

Staff HMPPS sydd â strwythurau tâl caeedig yn unig:

Oriau wedi’u Pennu Ychwanegol sy’n Bensiynadwy (ACHP)

Bydd staff sy’n symud o strwythur tâl caeedig 39 awr yn gymwys i gyflawni dwy awr ychwanegol sy’n bensiynadwy ac yn cael eu gwarchod (ACHP). Byddant yn gweithio wythnos 39 awr sy’n cynnwys yr wythnos safonol o 37 awr ynghyd â dwy awr ychwanegol (ACHP) sy’n cael eu talu ar y gyfradd amser cyffredin sy’n bensiynadwy.

Gweithio Orau Anghymdeithasol

Fel rhan o’r swydd hon bydd rhaid gweithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd, a byddwch yn cael taliad o 17% yn ychwanegol at eich tâl sylfaenol i gydnabod hynny. Mae oriau anghymdeithasol yn golygu oriau sydd ddim rhwng 07.00 a 19.00 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn cynnwys gweithio gyda’r nos, dros nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc/cyhoeddus.






























OR-JES-2254-JD-B4 : Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar f6.0





Proffil Llwyddiant






Ymddygiad


Cryfderau


Gallu

Profiad

Technegol

Argymhellir dewis

cryfderau yn lleol,

ac argymhellir 4-8








Cyflawni’n Gyflym




Gallu dadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn gwneud asesiadau a phenderfyniadau.

Rhaid bod yn gymwys mewn gweithdrefnau carcharu, gan gynnwys asesiadau risg deinamig.

Cwblhau Hyfforddiant Lefel Mynediad Swyddogion Carchar a chyfnod prawf yn llwyddiannus.


Arweinyddiaeth




Gallu cyfathrebu’n glir ar lafar ac ar bapur gyda throseddwyr, gweithwyr proffesiynol ac mewn gwrandawiadau fel Byrddau Parôl.

Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl sydd wedi profi amrywiaeth o anawsterau cymdeithasol/personol ac o fod yn bwyllog gan ddefnyddio disgresiwn wrth ddelio â materion cyfrinachol a sensitif..

Mae’n rhaid bod gennych Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Gofal Caethiwo 3


Cyfathrebu a Dylanwadu




Gallu cydymdeimlo’n adeiladol â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Dealltwriaeth o ffactorau yn ymwneud â throseddu, e.e. camddefnyddio sylweddau, problemau llety.

Mae’n rhaid eich bod chi wedi derbyn hyfforddiant mewn technegau atal corfforol


Cydweithio




Gallu cwblhau’r holl hyfforddiant gorfodol fel y bo’n ofynnol i gefnogi’r swydd.

Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli achosion, ac ymrwymiad iddynt.

Dymunol - Cymhwyster/cymwysterau academaidd lefel uwch.


Rheoli Gwasanaeth o Safon





Adnabyddiaeth a dealltwriaeth o reoli risg/asesu risg fel y mae’n berthnasol i droseddwyr a’r effaith ar ddioddefwyr trosedd.

Wrth drosglwyddo i sefydliad Pobl Ifanc, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gael ei asesu’n llwyddiannus i ddangos ei fod yn addas i weithio gyda Phobl Ifanc




























OR-JES-2254-JD-B4 : Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar f6.0

Dewiswch eitem.





Profiad o gynllunio a chydlynu gwaith.



Dewiswch eitem.





Profiad o weithio gyda grwpiau neu unigolion er mwyn ysgogi a newid ymddygiad.



Dewiswch eitem.





Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol yn cynnwys hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.








Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y system cyfiawnder troseddol.








Profiad o weithio gyda phobl sydd wedi troseddu..








Wedi cael Hyfforddiant Staff Ymwybyddiaeth o Ferched (WASP) os byddwch chi’n gweithio mewn sefydliad i ferched.








Wedi cael hyfforddiant Rhaglen Staff Ymwybyddiaeth o’r Ifanc (JASP) ac amddiffyn plant os byddwch chi’n gweithio mewn sefydliad i Bobl Ifanc.








Gwybodaeth ymarferol o’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r Safonau Cenedlaethol.








Gwybodaeth o Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ac adnoddau asesu risgiau/anghenion.












































OR-JES-2254-JD-B4 : Swyddog Carchardai Arbenigol: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar f6