Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EI Mawrhydi
Lefel Is-glwstwr
Teitl Swydd: Clerc Llys y Goron
Ystod cyflog neu gyfwerth: Band EO
Cefndir
Cafodd Y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd a Gwasanaeth Llysoedd EI Mawrhydi eu cyfuno i greu un asiantaeth, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EI Mawrhydi ar 1 Ebrill 2011. Mae cyfuno’r ddau sefydliad wedi dileu dyblygu gwaith yn y swyddogaethau rheoli ac wedi cynyddu effeithiolrwydd y swyddogaethau gweinyddol, sydd wedi galluogi GLlTEM i leihau faint mae’n ei wario ar bethau heblaw’r rheng flaen yn sylweddol.
O ganlyniad i hyn, mae yna ddisgwyliadau mawr ar yr holl staff waeth beth yw eu swydd ac fe ddisgwylir i bawb berfformio’n dda. Mae’r sefydliad yn mabwysiadu ffyrdd newydd neu well o weithio yn gyson er mwyn sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n hanfodol yn unig.
Bydd angen i staff Band EO arddangos ymrwymiad i bedwar prif egwyddor: Newid parhaus, egwyddorion gwelliant parhaus, rheoli ansicrwydd a gwella perfformiad. Rhaid i’r unigolion a benodir i rolau newydd o fewn GLlTEM ymrwymo o ddifrif i'r egwyddorion hyn a chyflwyno tystiolaeth o hyn yn eu cais.
Trosolwg
Fel sefydliad newydd mae GLlTEM ar ddechrau cyfnod o newid sylweddol. Mae’n rhaid cael arweinyddiaeth gref er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus. Bydd disgwyl i’r rhai hynny sydd â chyfrifoldeb am reoli staff ddarparu arweiniad a ffocws clir a chefnogi'r newidiadau fydd yn cyflawni gwell effeithiolrwydd. Mae Cyfarwyddwyr Cyflawni GLlTEM yn disgwyl i reolwyr y sefydliad weithredu'n onest ac yn agored; disgwylir iddynt arddangos ymrwymiad i newid drwy gynnwys a grymuso eraill a chyflawni canlyniadau.
Prif bwrpas y rôl yw
Rheoli'r ystafelloedd llys er mwyn sicrhau y delir ag achosion yn brydlon mewn cysylltiad â'r farnwriaeth, y proffesiwn cyfreithiol a staff a sicrhau bod yr holl ganlyniadau dilynol yn cael eu cofnodi'n gywir yn unol â'r targedau. Hefyd sicrhau bod yr holl ddyletswyddau ategol yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
Prif gyfrifoldebau
|
Gweinyddu
|
|
|
Gweithrediadau
|
|
|
Arwain Tîm |
|
|
Prosesu a rheoli gwaith achos |
|
|
Cyfrifo a dadansoddi |
|
|
Cyfathrebu gyda’r cyhoedd, rheithgorau, y farnwriaeth, defnyddwyr llys a thribiwnlys eraill a chynrychiolwyr asiantaethau a sefydliadau eraill |
|
|
Cynrychiolaeth |
|
|
Arbenigedd |
|
|
Atebolrwydd |
|
Dyletswyddau eraill
Mae gofyn i ddeiliad y swydd weithio mewn ffordd hyblyg ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill, ar gais rheolwr llinell, sy’n gymesur â gradd a lefel cyfrifoldeb y swydd hon.
Cyflawni Gweithredol yn GLlTEM
Mae’r rôl hon yn rhan o’r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol. Yr unigolion hyn yw wyneb allanol y llywodraeth gan eu bod yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd mewn amryw o rolau gwahanol. Maent yn gweithio mewn amryw o wahanol adrannau ac asiantaethau ar draws y DU, yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid mewn
Rolau wyneb yn wyneb yn GLlTEM er enghraifft tywysydd llys
Rolau yng Nghanolfan Gyswllt GLlTEM er enghraifft cynghorwyr yn y ganolfan alwadau
Rolau prosesu yn GLlTEM er enghraifft staff yn y Ganolfan Hawliadau am Arian yn y Llys Sirol a Gweinyddiaeth y Llysoedd a Thribiwnlysoedd
Mae bod yn rhan o’r proffesiwn cyflawni gweithredol yn golygu eich bod yn perthyn i gymuned traws-lywodraethol o bobl. Bydd yn gyfle i chi gael mynediad at wybodaeth am safonau proffesiynol, datblygu sgiliau a chymwysterau fydd yn eich helpu chi i barhau i wella eich datblygiad a'ch perfformiad ac estyn eich opsiynau gyrfa.