Swyddog carchar - CEM Berwyn  
CEM Berwyn, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, Heol y Bont i'r Gogledd, Wrecsam 
LL13 9QE  

Cyflog cychwynnol: £35,875 (am wythnos 39 awr gan gynnwys 20% 
anghymdeithasol) 
Dinas/Tref: Wrecsam  
Rhanbarth: Cymru  
Math o swydd wag: Teilyngdod 
 
Nid yw’r rôl hon yn gymwys ar gyfer fisa Gweithiwr Medrus newydd yn unol â’r 
rheolau mewnfudo presennol.
 
O 22 Gorffennaf 2025, cyflwynodd y Llywodraeth newidiadau i’r llwybr fisa Gweithiwr 
Medrus. Ni all yr adran ystyried eich nawdd ar gyfer y rôl hon oni bai eich bod wedi 
dal fisa Gweithiwr Medrus cyn y newidiadau ar 22 Gorffennaf 2025. Os ydych wedi 
dal fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus, dylech godi hyn yn ystod eich gwiriadau 
diogelwch, a bydd cymhwysedd yn cael ei asesu yn unol â’r rheolau mewnfudo a’r 
darpariaethau trosiannol sydd ar waith. 
Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych wedi dal fisa Gweithiwr Medrus 
cyn y newidiadau ar 22 Gorffennaf 2025, bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar 
gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. 
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt a’u bod yn cynnal yr hawl 
gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig. 
Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU fel y’u cymhwysir 
yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Gallwch ddarllen mwy am fisâu Gweithiwr Medrus a’r 
meini prawf cymhwyster yma. 
 
Swydd arbennig. Wedi’i gwneud gan rywun fel chi. 
Mae swyddogion carchar yn amddiffyn y cyhoedd ac yn helpu i gael effaith ar 
fywydau carcharorion.  
Os oes gennych chi’r uniondeb, y sgiliau a’r cymeriad rydyn ni’n chwilio amdanyn 
nhw, gallai’r rôl ddynamig hon fod yn ddechrau gyrfa lwyddiannus.  
 
Rhywun fel chi 
Does dim ffasiwn beth â’r swyddog carchar arferol. Daw ein swyddogion o wahanol 
gefndiroedd, yn union fel y troseddwyr y maent yn gweithio gyda nhw. P’un a ydych 
chi’n rhiant, yn athro, wedi gweithio ym maes manwerthu, yn y lluoedd arfog, neu’n 

teimlo eich bod chi’n berson pobl naturiol, bydd gennych chi’r empathi, yr 
hunanhyder, y sgiliau cyfathrebu gwych a’r gwytnwch rydyn ni eisiau.  
Beth bynnag fo’r her, byddwch yn cymryd yr amser i feithrin perthnasoedd adeiladol, 
cadarnhaol a phroffesiynol gyda charcharorion a allai fod ar y pwynt isaf yn eu 
bywydau. 
Mae gwaith tîm yn chwarae rhan hollbwysig yn yr amgylchedd hwn, felly bydd angen 
i chi ymrwymo’n llwyr i gefnogi eich cydweithwyr a deall pwysigrwydd gweithredu fel 
un tîm i gadw’r carchar, carcharorion a phawb sy’n gweithio yma’n ddiogel. 
Bydd gofyn i chi weithio shifftiau amrywiol a rhai penwythnosau. 
Swydd arbennig 
Yn yr yrfa unigryw hon, cewch gyfle i gyflawni llawer o wahanol rolau mewn unrhyw 
ddiwrnod. Un funud byddwch yn cadw’r heddwch, y funud nesaf byddwch yn 
gwnselydd neu’n athro. Byddwch chi’n gweithio’n uniongyrchol gyda charcharorion 
mewn amgylchedd unigryw, gan helpu i ddiogelu’r cyhoedd a chael dylanwad 
cadarnhaol.  
Dysgwch fwy am y rôl amrywiol hon a bywyd o ddydd i ddydd fel swyddog carchar. 
 
Manylion y Swydd 
Cymhwysedd 
I fod yn swyddog carchar, bydd angen i chi: 
 
•  fod yn 18 oed o leiaf pan fyddwch yn dechrau gweithio 
•  bodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil (gweler yr adran 
cenedligrwydd isod) 
•  gan fod hon yn swydd gorfforol, bydd angen i chi basio asesiad meddygol a 
ffitrwydd fel rhan o'r broses ymgeisio 
•  bodloni’r safon golwg sy’n ofynnol yn y ddau lygad (gyda a heb lensys cywiro) 
•  Am resymau diogelwch, mae pawb sy’n hyfforddi i fod yn swyddog carchar 
angen gallu clywed i safon addas (heb ddefnyddio cymhorthion clyw) 
•  Er y caniateir tatŵs, gan gynnwys rhai sy’n weladwy, ni ddylent gael eu 
hystyried yn sarhaus, yn gwahaniaethu, yn dreisgar neu’n fygythiol mewn 
unrhyw ffordd. Yn gyffredinol, nid yw tatŵs wyneb yn dderbyniol, ac eithrio 
pan fo hyn am resymau diwylliannol, crefyddol neu feddygol. 
 
I weithio mewn carchar diogelwch uchel (categori A) rhaid ichi fod wedi byw yn y DU 
am y 3 blynedd diwethaf. 

Teithio i’r Gwaith  
Mae rhai carchardai wedi’u lleoli mewn lleoliadau gwledig gydag opsiynau 
trafnidiaeth gyhoeddus cyfyngedig; felly, mae trwydded yrru a thrafnidiaeth eich hun 
yn fuddiol ond nid yw’n ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl (oni nodir yn wahanol). Sylwch 
fod amseroedd dechrau a gorffen shifftiau yn sefydlog, a’ch cyfrifoldeb chi yw 
cyrraedd a gadael eich gweithle ar amser ar gyfer dechrau eich shifft. Ystyriwch yn 
ofalus leoliad y swydd wag hon a’ch opsiynau trafnidiaeth cyn gwneud cais. 
Gofynion Cenedligrwydd 
Mae’r swydd hon yn agored yn fras i’r grwpiau canlynol:  
•  dinasyddion y DU 
•  dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon 
•  dinasyddion gwledydd y Gymanwlad sydd â hawl i weithio yn y DU  
•  dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau 
teulu’r dinasyddion hynny sydd â statws preswylydd sefydlog neu gyn-
sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb 
Ewropeaidd (EUSS) https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families  
•  dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau 
teulu’r dinasyddion hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws preswylydd 
sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr Undeb 
Ewropeaidd (EUSS)  
•  unigolion sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a 
oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny 
•  dinasyddion Twrci, a rhai aelodau teulu dinasyddion Twrci, sydd wedi ennill yr 
hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil  
 
I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn 
https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules. 
 
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a 
gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cadw’r hawl 
honno. 
 
Sgiliau hanfodol 
Does dim angen cymwysterau arnoch i fod yn swyddog carchar. Mae rhinweddau 
personol yn bwysicach. Mae angen i chi ddangos: 
 

•  sgiliau cyfathrebu a dylanwadu da 
•  ymrwymiad i ansawdd 
•  y gallu i wneud penderfyniadau effeithiol 
•  gofal a dealltwriaeth 
Cyflog 
 Bydd yr hyfforddiant cychwynnol yn 37 awr yr wythnos. Ar ôl hyfforddi, gallwch 
ddewis gweithio 37, 39 neu 41 awr yr wythnos. Bydd eich cyflog blynyddol yn 
adlewyrchu eich oriau wythnosol. 
 
•  37 awr yr wythnos = £33,746 y flwyddyn 
•  39 awr yr wythnos = £35,875 y flwyddyn 
•  41 awr yr wythnos £38,003 y flwyddyn 
 
Mae’r holl ffigurau cyflog a nodir yn cynnwys unrhyw lwfansau ychwanegol. 
Mae carchardai yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn 
golygu y bydd yn rhaid i chi weithio patrymau shifftiau amrywiol a fydd yn cynnwys 
gyda’r nos, dros nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus weithiau 
(ychwanegir y dyddiau hyn at eich lwfans gwyliau).  Mae’r rhan fwyaf o garchardai’n 
gweithio gyda phatrwm shifftiau newidiol o 39 awr yr wythnos. 
Efallai y byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i weithio oriau ychwanegol gyda thâl. 
 
Buddion 
 
•  25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn (yn codi i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o 
wasanaeth) 
•  amser ychwanegol o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gwyliau cyhoeddus ac 1 
diwrnod braint 
•  Pensiwn y Gwasanaeth Sifil o hyd at 20% o’ch cyflog 
•  cynllun seiclo i’r gwaith, benthyciadau teithio a buddion eraill 
Darllenwch fwy am fuddion gweithio fel swyddog carchar. 
 
Y Broses Asesu 

Yn ystod y broses recriwtio, byddwch yn cael eich asesu ar yr ymddygiadau, y 
cryfderau a’r galluoedd sy’n ofynnol i fod yn swyddog carchar effeithiol. Mae’r rhain 
yn cynnwys: 
 
•  cyfathrebu a dylanwadu 
•  rheoli gwasanaeth o safon uchel 
•  gwneud penderfyniadau effeithiol 
•  bod yn ofalgar 
Byddwn yn asesu eich cryfderau naturiol i ganfod beth sy’n eich ysgogi a’ch 
sbarduno. Byddwn hefyd yn asesu eich gallu o ran rhifedd, Saesneg ysgrifenedig a 
Saesneg llafar.  
Profion Ar-lein 
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich ffurflen gais gychwynnol, byddwch yn cael 
eich gwahodd i gwblhau cam 1 y prawf ar-lein, i weld a oes gennych y sgiliau barn a 
rhifiadol sylfaenol a ddisgwylir gan swyddog carchar. 
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i brawf ar-lein cam 2  
(asesiad yn seiliedig ar dasg) i weld a ydych yn meddu ar yr ymddygiadau a’r 
rhinweddau naturiol sydd eu hangen i fod yn swyddog carchar effeithiol. 
Y ganolfan asesu ar-lein (OAC) 
Ar ôl cwblhau’r profion ar-lein yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i ganolfan 
asesu ar-lein lle byddwn yn profi i weld a ydych yn meddu ar y galluoedd, yr 
ymddygiadau a’r cryfderau i fod yn swyddog carchar. 
Darllenwch fwy am y broses ymgeisio. 
 
Cynigion swydd: swydd wag yn seiliedig ar deilyngdod  
Mae hon yn swydd sy’n seiliedig ar deilyngdod. Os byddwch yn llwyddiannus yn y 
ganolfan asesu ar-lein, byddwch yn cael eich ychwanegu at restr teilyngdod yn 
seiliedig ar eich sgôr. 
 Pan fydd pob ymgeisydd wedi cwblhau’r ganolfan asesu, bydd y carchar yn cynnig 
swydd i’r rheini sydd â’r sgoriau uchaf yn gyntaf pan fydd swyddi ar gael. 
 Gallwch aros ar y rhestr teilyngdod am 12 mis. Ar ôl hyn, bydd angen i chi wneud 
cais eto. 
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus yn y cam didoli/cyfweld, bydd cyfnod aros o 
chwe mis yn cael ei roi ar waith ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni fyddwch yn cael 
cyflwyno unrhyw geisiadau pellach am swyddi swyddog carchar. 

 
Rôl Gradd Cymorth Gweithredol 
Bydd ein Canolfan Asesu Ar-lein nid yn unig yn eich asesu yn erbyn y meini prawf 
allweddol i fod yn swyddog carchar ond bydd hefyd yn canfod eich addasrwydd i 
gael eich penodi i Rôl Gradd Cymorth Gweithredol. Os byddwch yn aflwyddiannus 
yn eich cais i fod yn swyddog carchar, ar ôl bod yn y Ganolfan asesu ar-lein, gallwn 
gynnig rôl arall i chi fel Swyddog Cymorth Gweithredol.  
Prawf Meddygol a Ffitrwydd 
Unwaith y byddwn yn nodi swydd wag ar eich cyfer, byddwn yn eich gwahodd i 
gwblhau prawf meddygol a ffitrwydd. Bydd hyn yn cynnwys prawf golwg, prawf clyw 
a sgrinio iechyd sylfaenol, gan gynnwys profion pwysedd gwaed. 
 
Noder nad ydym yn gallu hwyluso asesiadau meddygol a ffitrwydd y tu allan i'r 
DU. Bydd gofyn i ymgeiswyr fynychu canolfan asesu meddygol a ffitrwydd yn 
y DU i symud ymlaen â'u cais. 

 
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am yr asesiad meddygol a’r prawf ffitrwydd yn 
y ganolfan wybodaeth ymgeisio  
 
Gweithio i’r Gwasanaeth Sifil 
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision 
sifil. 
Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, yn unol â'r 
egwyddorion recriwtio a nodir yng Nghomisiwn y Gwasanaeth Sifil. Os ydych chi’n 
teimlo bod y broses recriwtio wedi torri’r egwyddorion recriwtio, gallwch gyflwyno 
cwyn ffurfiol yn y drefn ganlynol: 
1.  Shared Services Connected Ltd: ffoniwch 0845 241 5358 (Dydd Llun i ddydd 
Gwener 8am - 6pm) neu anfon neges e-bost at Moj-recruitment-vetting-
enquiries@gov.sscl.com 
2.  Adnoddau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder   
3.  Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.  
 
Amrywiaeth a Chynhwysiant 
Mae’r Gwasanaeth Sifil wedi ymrwymo i ddenu, cadw a buddsoddi mewn talent lle 
bynnag y mae’n cael ei darganfod. Gweler Cynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil a 
Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil i ganfod mwy.  
 

Cymorth ar ffurf Addasiadau Rhesymol 
Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi 
ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu dangos eu sgiliau, eu talent a’u galluoedd. 
Mae cynnig cymorth ar ffurf addasiadau rhesymol i ymgeiswyr pan fyddant yn 
gwneud cais am un o’n swyddi yn un ffordd yn unig rydym yn gwneud hyn. 
  
Cyn cwblhau profion ar-lein neu fynychu canolfan asesu ar-lein, mae’n hanfodol 
trefnu cymorth ar ffurf addasiadau rhesymol. Oherwydd cyfyngiadau ymarferol a 
logistaidd, ni all ein haseswyr ddarparu ar gyfer ceisiadau ar ddiwrnod y ganolfan 
asesu. Felly, gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod i ni mewn da bryd os oes angen 
addasiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i chi pan fydd 
ei angen arnoch.   
 
Mae gwneud cais am gymorth addasiadau rhesymol wedi’i wneud i fod yn syml. 
Dewiswch ‘ydw’ yn y ffurflen gais pan fydd yn gofyn a ydych yn meddwl y gallai fod ei 
angen arnoch. 
 
Manylion Lwfans   
Edrychwch ar yr atodiad disgrifiad swydd ychwanegol 
Gwybodaeth Ychwanegol   
Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch 0345 241 5358 (o ddydd Llun i ddydd 
Gwener 8am-6pm) neu anfonwch e-bost at MoJ-recruitment-vetting-
enquiries@gov.sscl.com. Dyfynnwch gyfeirnod y swydd 13308 
Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn 
Gymraeg (pan nodir hynny yng Nghymru) neu yn Saesneg. 
Dyddiad cau: 18th March 2026 
Dogfen ategol 1   
Band-3-PO-Safe-Decent-and-Secure-JD048-v8. - 150KB Yn agor mewn ffenestr 
newydd 
 
Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr 
Mae’r cynllun ‘Gwneud y Gwasanaeth Sifil yn Lle Gwych i weithio i gyn-filwyr’ yn 
cynnwys cynllun gwarantu cyfweliad i’r rheini sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol i roi 
cyfleoedd i gyn-aelodau cymwys o’r Lluoedd Arfog sicrhau swyddi sy’n rhoi boddhad 
iddynt. Caniatáu i gyn-filwyr barhau i wasanaethu eu gwlad, a dod ag unigolion 
medrus iawn sydd ag ystod eang o brofiad i’r Gwasanaeth Sifil mewn amgylchedd 
sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth blaenorol yn y Lluoedd Arfog. 
I gael rhagor o fanylion am y cynllun a’r gofynion o ran cymhwysedd, ewch i: 
https://www.gov.uk/government/news/making-the-civil-service-a-great-place-to-work-
for-veterans 

Cynllun Cyfweliad Adleoli 
Mae disgwyl i adrannau’r Gwasanaeth Sifil archwilio cyfleoedd adleoli cyn dileu 
swydd unigolyn. Fel rhan o’r Cynllun Cyfweliad, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 
wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i’r rheini lle ‘y mae perygl y bydd eu swydd yn 
cael ei dileu’. 
Gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder gynnig cyfweliad i ymgeiswyr cymwys sy’n bodloni’r 
meini prawf dethol sylfaenol, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o ymgyrchoedd. Ni 
fydd ymgeiswyr yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cyfweliad Adleoli os ydynt yn gwneud 
cais am ddyrchafiad. 
Sut beth yw gweithio fel swyddog carchar? 
Bydd ein gweithgaredd rhyngweithiol ar-lein yn rhoi cipolwg i chi ar rai o’r 
sefyllfaoedd sy’n gallu wynebu swyddogion carchar yn eu gwaith o ddydd i ddydd. 
Pwrpas hyn yw eich helpu i benderfynu a yw rôl swyddog carchar yn addas i chi, ac 
ni fydd eich ymatebion yn y gweithgaredd yn rhan o’ch cais. 
Gallwch gael mynediad at y gweithgaredd drwy ddefnyddio'r botwm Gweithgaredd 
Rhyngweithiol      
 
 
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) 
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw dystiolaeth a gyflwynir fel rhan o'ch cais, gan 
gynnwys eich CV, datganiad o addasrwydd ac enghreifftiau ymddygiad, yn wir ac yn 
ffeithiol gywir. Nodwch y gall llên-ladrad gynnwys cyflwyno syniadau a phrofiadau 
eraill, neu a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich rhai eich hun.