Disgrifiad Swydd y Gwasanaeth Prawf
Band 3 y Gwasanaeth Prawf
Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf
Disgrifiad Swydd: Hwylusydd Rhaglenni
|
Cyfeirnod y Ddogfen |
PS-JES-0123 Hwylusydd Rhaglen f1.0 |
|
Math o Ddogfen |
Rheolaeth |
|
Fersiwn |
1.0 |
|
Dosbarthiad |
Swyddogol |
|
Dyddiad Cyhoeddi |
14 Mehefin 2024 |
|
Statws |
Llinell sylfaen |
|
Cynhyrchwyd gan |
Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi |
|
Awdurdodwyd gan |
Y Tîm Dyfarnu |
|
Tystiolaeth ar gyfer y Disgrifiad Swydd
|
|
SWYDDOGOL
|
Teitl y Swydd |
Hwylusydd Rhaglenni
|
|
Cyfarwyddiaeth |
Y Gwasanaeth Prawf
|
|
Band |
3 |
|
Trosolwg o’r swydd |
Bydd deiliad y swydd yn darparu amrywiaeth o ymyriadau adsefydlu wedi’u eu hanelu at newid agweddau, credoau ac ymddygiad pobl sydd ar brawf gydag ystod lawn o fathau o droseddau a lefelau risg (gan gynnwys y rheini sydd wedi eu cael yn euog o gam-drin rhywiol a domestig), fel y penderfynir gan ddedfrydau’r Llysoedd ac ar argymhelliad Ymarferwyr Prawf.
Prif amcanion y rôl hon yw lleihau aildroseddu, amddiffyn y cyhoedd, atal dioddefwyr yn y dyfodol ac ailsefydlu i helpu i greu bywydau adeiladol ac ystyrlon yn y gymuned, a hynny drwy ddarparu Rhaglenni Achrededig ac Ymyriadau Strwythuredig sy’n seiliedig ar dystiolaeth effeithiol.
Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli'n Rhanbarthol ac yn rhan o’r Tîm Ymyriadau ac yn adrodd i’r Rheolwr Rhaglen. Bydd yn darparu ymyriadau ar draws ardal ranbarthol fawr a bydd teithio’n ofynnol. Ni fydd unrhyw gyfrifoldeb rheoli llinell yn rhan o’r swydd hon.
Bydd gofyn gweithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd (gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau).
|
|
Crynodeb |
Bydd deiliad y swydd yn darparu ymyriadau mewn grwpiau. Fodd bynnag, gall ymyriadau fod ar ffurf sesiynau 1:1 neu o bell yn dibynnu ar yr ymyriad (gan gynnwys gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau a heriau dysgu), a hynny’n unol â llawlyfrau gweithredu a pholisïau sefydliadol.
Bydd deiliad y swydd yn cysylltu ag Ymarferwyr Prawf ac asiantaethau eraill i roi adborth iddynt mewn perthynas â chynnydd pobl ar brawf, y gwaith sydd ei angen a/neu bryderon sydd mewn grŵp. Bydd yn cyfrannu at yr asesiad risg cyffredinol a’r anghenion sy’n gysylltiedig â throseddu er mwyn mynd i’r afael â hyn. |
|
Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau |
Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:
Rhaid i ddeiliad y swydd lynu wrth yr holl bolisïau mewn perthynas â natur sensitif/cyfrinachol yr wybodaeth sy’n cael ei thrin wrth weithio yn y swydd hon a rhaid iddo bob amser ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant a dealltwriaeth o’u perthnasedd i’r gwaith mae’n ei wneud.
Mae’r rhestr ddyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir iddi fod yn rhestr gynhwysfawr. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae'n bosib y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf. |
Meini Prawf Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil.
|
Ymddygiad |
|
|
Gallu |
|
|
Profiad hanfodol |
|
|
Anghenion technegol |
|
|
Cymwysterau Gofynnol |
|
|
Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol) a Lwfansau |
|
NPS-JES-0031_ Probation Services Officer_v5.0