OFFICIAL

LAA Job Description Template V7

Teitl Swydd a Gradd:

Rheolwr Tîm - HEO

Math o Gytundeb:

Parhaol


Amrediad cyflog (yn dibynnu ar leoliad):

Cenedlaethol - £35,335 to £37,847


Nodwch, nes eich bod chi wedi’ch cyflogi gan y Gwasanaeth Sifil yn barod ac yn ennill mwy na’r isafswm uchod, os ydych chi’n llwyddiannus cynigir yr isafswm ar gyfer y radd yn dibynnu ar eich lleoliad.

Lleoliad:

Caerdydd


Adran:

Rheolaeth Achosion

Tîm:

Tîm Ceisiadau Sifil


Patrwm gweithio:

Cefnogir y swydd gan bolisi gweithio hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn cynnwys cydweithwyr sy’n gweithio’n hyblyg, o bell (fel rhan o weithio hybrid), yn rhan amser neu drwy rannu swydd ayyb.


Os ydych chi’n gwneud cais am swydd rhan amser, nodwch er mwyn cyrraedd gofynion busnes bydd rhaid gweithio o leiaf 28 awr ac o leiaf 4 diwrnod yr wythnos. Bydd yn rhaid i un o’r dyddiau gweithio cynnwys dydd Llun.

Ymateb i:

Reolwr Gweithredoedd

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

18fed o Dachwedd 2025

Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol

Rydym yn asiantaeth gweithredol o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn gyfrifol am weithredu gweinyddiaeth y gronfa Cymorth Gyfreithiol er mwyn darparu cyngor Cymorth Cyfreithiol sifil a throseddol i bobl yn Lloegr a Chymru.

Mae ein pobl wrth galon cyflawni rhagoriaeth. Yn cyflogi rhyw 1,200 o gydweithwyr ar draws Cymru a Lloegr, rydym yn teimlo’n falch bod gennym rhai o’r canlyniadau Arolwg Pobl gorau yn y Gwasanaeth Sifil.

Ein Hymrwymiad ACC i Amrywiaeth a Chynhwysiad

Mae'r gwasanaeth sifil ag ymrwymiad i ddenu, cadw a buddsoddi mewn talent ble bynnag byddwn yn ei ddarganfod. Er mwyn dysgu mwy gweler Cynllun Bobl y Gwasanaeth Sifil a Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiad y Gwasanaeth Sifil.

Fel corff ‘Hyderus o ran Anabledd’, byddwn yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr gydag anabledd sy’n cyrraedd meini prawf hanfodol y swydd hon. O dan Ddeddf Gydraddoldeb 2010, diffinnir anabledd fel amhariad corfforol neu feddyliol sydd ag effaith andwyol sylweddol a thymor-hir ar eich gallu i gynnal gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd a sydd wedi para, neu y ddisgwylir iddo bara, o leiaf 12 mis.

Os ydych yn ymateb i swydd o fewn yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol ac eisiau cael eich ystyried o dan y rhaglen gwarantu cyfweliad, sicrhewch eich bod yn dynodi hyn yn eich cais a gadwech i ni wybod os oes unrhyw addasiadau rhesymol a fydd angen yn ystod y sifft neu brosesau dethol yn hwyrach.


Nod yr ACC yw adeiladu sefydliad sydd yn agored, cynhwysol ac sydd wir yn gwerthfawrogi ac yn dathlu amrywiaeth ei weithlu. Sefydliad sydd yn adlewyrchu ac yn deall anghenion y gymdeithas amrywiol rydym yn gwasanaethu, boed hynny o ran cefndir cymdeithasol, rhywedd, oed, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, credoau, anabledd neu salwch hirdymor neu gyfrifoldebau gofal.



Addasiadau Rhesymol

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein proses recriwtio yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Os oes gennych anabledd neu gyflwr hirdymor (er enghraifft dyslecsia, gorbryder, awtistiaeth, cyflwr symudedd neu golli clyw) ac angen i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol er mwyn cefnogi chi trwy’r proses recriwtio, gadewch i ni wybod trwy ychwanegu’r wybodaeth i’r system ceisiadau neu e-bostio LAARecruitment@justice.gov.uk ar ôl i chi ceisio er mwyn i ni drafod opsiynau gyda chi.

Rheolaeth Achosion

Yr adran Rheolaeth Achosion ydy swyddogaeth ddarparu yr ACC, ac mae ein staff yn sicrhau bod 500,000 o gleientiaid newydd pob blwyddyn yn cael mynediad at y cyfiawnder rydyn nhw ei angen, a bod darparwyr yn cael eu talu’n deg ar gyfer darpariaeth cymorth cyfreithiol. Fel rhan o’r gwaith rydym yn ei wneud, rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n ariannu achosion priodol wrth amddiffyn arian cyhoeddus. Gyda staff dros nifer o safleoedd, rydym yn darparu gwasanaethau i’r rheini sy’n wynebu problemau cyfreithiol troseddol a sifil, yn cynnwys teulu, mewnfudo, iechyd meddwl, tai ac achosion ariannu eithafol.

Rheolaeth Achosion Sifil

Mae’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn gyfrifol am sicrhau fod gwasanaethau cymorth cyfreithiol o gyfreithwyr, bargyfreithwyr a’r sector nid-er-elw ar gael i’r cyhoedd cyffredinol. Mae ein gwaith i weinyddu cymorth cyfreithiol yn hanfodol i weithrediad teg, effeithlon ac effeithiol y system cyfiawnder troseddol, a rydym yn gweithio’n agos gyda darparwyr cyfreithiol a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ehangach i gyrraedd ein nod. Yr ymrwymiad yma sydd wrth galon ein penderfyniadau o ddydd i ddydd ac yn ein gwaith i wella gwasanaethau cymorth cyfreithiol. Mae ymgysylltiad ac ymrwymiad ein staff yn hanfodol i gyflawni ein pwrpas. Gyda’n gilydd rydym yn dangos didwylledd, gonestrwydd ac ymrwymiad ac wrth gwrs, i sicrhau canlyniadau.

Mae Rheolaeth Achosion Sifil yn gyfrifol am brosesu ceisiadau a hawliau dros gostau ar gyfer cymorth cyfreithiol ac eitemau o waith cysylltiedig.

Crynodeb Swydd

Pwrpas y rôl yma yn y bôn fydd arwain tîm mewn modd effeithlon i gyrraedd Dangosyddion Perfformiad Allweddol gan ddadansoddi ystadegau perfformiad a datblygu aelodau’r tîm er mwyn sicrhau bod eich tîm yn ymgysylltu yn effeithiol o ddydd i ddydd.

Cyfrifoldebau Allweddol:


nodau, amcanion, pwrpas a gweledigaeth yr Asiantaeth er mwyn sicrhau deallusrwydd ac

ymgysylltiad yn y weledigaeth.


Gwybodaeth, profiad a sgiliau hanfodol

  • Profiad o weithio o fewn amgylchedd gweithredol a gosod amcanion SMART

  • Profiad o sylwi ar ymddygiadau a pherfformiad a rhoi adborth adeiladol

  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol ysgrifenedig a llafar

  • Sgiliau datrys problem cryf er mwyn cyrraedd canlyniadau positif

  • Profiad o gymorth Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y gweithle

Gwybodaeth, profiad a sgiliau dymunol

  • Profiad o ddatblygu eraill

  • Llythrennedd o ran TG - adnabyddiaeth dda o Microsoft Office

  • Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch

Manyleb berson

  • Mae’r rôl hon yn addas i rywun sy’n mwynhau gweithio mewn rôl arweinyddiaeth mewn amgylchedd gweithredol cyflym



Dull asesu

Proses ymgeisio

I ymgeisio, darparwch Datganiad Cyfaddasrwydd yn dangos sut ydych chi’n cyrraedd y criteria hanfodol mewn dim mwy na 1000 o eiriau.


Dylai eich datganiad ddangos eich gallu i wneud pob un o’r criteria hanfodol a restrir. Gall defnyddio enghreifftiau helpu i gryfhau eich cais.


Nodwch nad oes angen arnoch ddarparu CV.


Proses cyfweliad / asesiad

Os ydych yn llwyddiannus trwy’r cam ymgeisio, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad / canolfan asesu mewn person neu ar Microsoft Teams, lle byddwch yn cael eich asesu yn erbyn y canlynol:


  • Cryfderau sy’n berthnasol i’r swydd

  • Ymddygiadau sy’n berthnasol i’r swydd:

  • Arweinyddiaeth

  • Cyflawni’n Brydlon

  • Cyfathrebu a Dylanwadu


Arweinyddiaeth

Enghreifftiau o arweinyddiaeth ar radd HEO neu gyfwerth yw pan fyddwch yn:

  • sicrhau bod gan gydweithwyr a rhanddeiliaid ddealltwriaeth glir o amcanion, gweithgareddau a fframiau amser

  • cymryd i ystyriaeth anghenion, barn a syniadau unigol gwahanol, gan hyrwyddo cynhwysiant a chyfle cyfartal i bawb

  • ystyried effeithiau gweithgareddau eich hun a’r tîm ar randdeiliaid a defnyddwyr terfynol

  • ymrwymiad model rôl a boddhad rôl

  • cydnabod a chanmol cyflawniadau eraill i yrru positifrwydd yn y tîm

  • rheoli gwrthdaro, camymddygiad ac ymddygiad anghynhwysol yn effeithiol, gan godi gydag uwch reolwyr lle bo hynny’n briodol


Cyflawni’n Brydlon

Enghreifftiau o gyflawni’n brydlon ar radd HEO neu gyfwerth yw pan fyddwch yn:

  • dangos agwedd bositif tuag at gadw ymdrechion y tîm cyfan sy’n ffocysu ar y prif flaenoriaethau

  • hyrwyddo diwylliant o ddilyn y gweithdrefnau priodol i sicrhau bod y canlyniadau’n cael eu cyflawni ar amser tra’n galluogi arloesi o hyd

  • sicrhau bod yr adnoddau mwyaf priodol ar gael i gydweithwyr eu defnyddio i wneud eu gwaith yn effeithiol

  • monitro gwaith eich hun a’ch tîm yn rheolaidd yn erbyn cerrig filltir gan sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu hystyried wrth osod tasgau

  • gweithredu’n brydlon i ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau pan fo gofynion sy’n gwrthdaro i gynnal perfformiad

  • caniatáu i unigolion y lle a’r awdurdod i fodloni amcanion, gan ddarparu cymorth ychwanegol lle bo angen, tra’n cadw cyfrifoldeb cyffredinol


Cyfathrebu a Dylanwadu

Enghreifftiau o gyfathrebu a dylanwadu ar radd HEO neu gyfwerth yw pan fyddwch yn:

  • cyfathrebu mewn ffordd syml, onest ac ymgysylltiedig - gan ddewis arddulliau priodol i wneud y mwyaf o ddealltwriaeth ac effaith

  • annog y defnydd o wahanol ddulliau cyfathrebu, gan gynnwys adnoddau digidol ac amlygu’r manteision, gan gynnwys sicrhau cost effeithiolrwydd

  • sicrhau bod gan gyfathrebu bwrpas clir ac sy’n ystyried anghenion unigol pobl

  • rhannu gwybodaeth fel sy’n briodol a gwirio dealltwriaeth

  • dangos positifrwydd a brwdfrydedd tuag at waith, gan annog eraill i wneud yr un peth

  • sicrhau bod negeseuon pwysig yn cael eu cyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid yn barchus, gan ystyried amrywiaeth y buddiannau


  • Eich Profiad o weithredu, hybu neu ddeall polisi amrywiaeth a chynhwysiant. Amrywiaeth ydy presenoldeb gwahaniaeth: gall hyn cynnwys un neu fwy o’r nodweddion gwarchodedig (Rhyw, Oedran, Hil, Anabledd ayyb.) neu fod am batrymau gweithio, os ydyn ni’n mwynhau neidio i mewn i dasg neu fyfyrio amdano cyn weithredu. Cynhwysiant ydy sut yr ydym yn croesawu, gwerthfawrogi a dathlu amrywiaeth, gan roi lais i bawb, tapio i mewn i syniadau a galluogi pobl i fod eu hunain yn y gwaith a chyrraedd eu potensial.


Ar gyfer y radd/rôl hon byddem yn disgwyl i’r ymgeisydd ddangos dealltwriaeth o’r termau Amrywiaeth a Chynhwysiant a gallu esbonio pam maen nhw’n bwysig iddynt, i’w tîm ac i le maen nhw’n gweithio. Byddem hefyd yn disgwyl enghreifftiau o weithredoedd maen nhw wedi’u cymryd (tu fewn neu du allan o’r gwaith) i gofleidio amrywiaeth (e.e. cynyddu dealltwriaeth) neu i wella cynhwysiant ar lefel tîm neu grŵp.


Bwriadwn cyflawni’n rhestr fer yr wythnos wedi’r 17eg o Dachwedd 2025

Cynhaliwn cyfweliadau yr wythnos wedi’r 1af o Ragfyr 2025

Os hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cyfle hwn, cysylltwch â Brendan Lynch Brendan.Lynch@Justice.gov.uk

Gweithdrefn cwynion

Os oes gennych unrhyw gwyn ynglŷn â’r gweithgaredd recriwtio hwn, rhannwch eich pryderon drwy ebostio LAAPeopleTeam@justice.gov.uk i ddechrau. Rydym yn bwriadu ateb unrhyw gwyn o fewn 10 diwrnod gweithio.

Os ydych yn anfodlon gyda’n hateb, byddwn yn blaenyrru eich cwyn i’r Comisiwn Gwasanaeth Sifil, corff annibynnol, er mwyn ei ystyried.





OFFICIAL