Comisiwn y Gyfraith - Cwnsler Arbennig Cymru
Disgrifiad swydd
Hydref 2025
| Proffil y Swydd | |
| Teitl y Swydd | Cwnsler Arbennig Cymru | 
| Gradd | 6 | 
| Rheolwr Llinell | Pennaeth Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru | 
| Dyddiad Cau | 03/11/2025 | 
   
   
  
Crynodeb
Rydym yn chwilio am gyfreithiwr profiadol i ymuno â Chomisiwn y Gyfraith fel Cwnsler Arbennig Cymru; swydd newydd gyffrous gyda'r bwriad o hybu gwaith Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru. Rydym yn chwilio am ymgeisydd rhagorol i ddylanwadu ar ein strategaeth, i greu effaith yn syth, ac i greu gwaddol drwy gyflwyno diwygiadau o ansawdd uchel i’r gyfraith yng Nghymru.
Mae'r swydd arbenigol hon yn gyfle unigryw i gryfhau a datblygu cysylltiadau Comisiwn y Gyfraith â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru ar draws Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, a'r sector cyfreithiol a'r trydydd sector, ac i gyfrannu at ddatblygu'r gyfraith yng Nghymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n ofalus gyda Thîm Comisiynydd y Gyfraith ar gyfer Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru, yn ogystal â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, er mwyn darparu arweinyddiaeth bwrpasol a helpu'r broses o ddethol, datblygu a rheoli prosiectau diwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â chyfraith ddatganoledig. Comisiynydd y Gyfraith fydd yn dal yn gyfrifol am bob prosiect, gyda chyfreithiwr y tîm yn cael ei neilltuo i brosiect sy'n arwain y gwaith o ddydd i ddydd ar bob prosiect.
   
   
  
Comisiwn y Gyfraith: 60 mlynedd o ddiwygio'r gyfraith ac arbenigedd cyfreithiol arloesol 
     
 
    
   
   
Mae Comisiwn y Gyfraith yn gorff statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 i adolygu cyfraith Cymru a Lloegr ac argymell diwygiadau yn ôl yr angen. Mae’n gweithredu fel corff anadrannol annibynnol sy'n cael ei noddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dyma nodau'r Comisiwn:
Sicrhau bod y gyfraith mor deg, modern, syml a chosteffeithiol â phosibl.
Cynnal ymchwil ac ymgyngoriadau er mwyn argymell diwygiadau i'w hystyried gan Senedd Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig.
Codeiddio'r gyfraith, dileu anghysonderau, diddymu deddfiadau darfodedig a diangen, a lleihau nifer y statudau ar wahân.
   
  
O reoleiddio diogelwch tomenni glo a chyfraith amaethyddiaeth yng Nghymru, i Dribiwnlysoedd datganoledig a rhentu cartrefi, rydym yn edrych ar feysydd pwysig a pherthnasol yn y gyfraith sy'n achosi problemau i bobl neu fusnesau, ac yn argymell diwygiadau pan fydd angen.
Mae llawer o'n gwaith yn uchel ei broffil ac yn ennyn diddordeb mawr ymysg Aelodau Senedd Cymru, y cyhoedd a'r cyfryngau. Ers ein hadroddiad cyntaf yn ymwneud â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn 2013, mae tîm y gyfraith yng Nghymru wedi cyflawni pum prosiect diwygio'r gyfraith, ac mae pob un ohonynt wedi cael eu rhoi ar waith neu wrthi'n cael eu rhoi ar waith.
Rydym nawr yn chwilio am feddyliwr arloesol a strategol, sydd â’r gallu i feithrin cysylltiadau cryf ac effeithiol, er mwyn helpu i arwain ein gwaith yng Nghymru. Mae'n gyfle gwych i arweinydd cyfreithiol profiadol sydd wedi ymrwymo i ddatblygu'r gyfraith yng Nghymru.
Rydym yn annog pobl o bob cefndir i ymgeisio, ac yn ceisio cael gweithlu sy’n cynrychioli’r gymdeithas ehangach rydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gyflogwr o ddewis. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a llesiant ac yn ceisio creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn cael eu gwerthfawrogi. I gael gwybod mwy am sut rydym yn gwneud hyn ewch i: https://www.gov.uk/government/organisations/ministry-of-justice/about/equality-and-diversity.cy.
   
   
  
Prif ddyletswyddau deiliad y swydd
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio'n agos gyda Chomisiynydd y Gyfraith a Rheolwr Tîm Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru, yn ogystal â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, i ddarparu cyngor ac arweinyddiaeth bwrpasol mewn perthynas â diwygio'r gyfraith yng Nghymru.
Blwyddyn yw cyfnod y swydd. Yn ystod y cyfnod hwnnw bydd disgwyl i ddeiliad y swydd bennu cyfeiriad a strategaeth gwaith Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru yn y tymor hwy. Gellir ymestyn y cyfnod drwy drafod a dod i gytundeb yn ystod y cyfnod.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fynd ati'n frwd i feithrin, datblygu a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid pwysig yng Nghymru, gan gynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru, y Farnwriaeth, Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol, academyddion a chyfreithwyr sy'n ymarfer, ac aelodau o'r trydydd sector.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at y broses o ddethol, datblygu a rheoli prosiectau diwygio’r gyfraith sy’n ymdrin â’r gyfraith yng Nghymru.
Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â Rheolwyr Tîm ac uwch arweinwyr eraill yn y sefydliad, gan ddarparu cyngor ac arbenigedd mewn perthynas â phrosiectau sy'n effeithio ar y gyfraith yng Nghymru, gan gynnwys cyfrannu at lunio polisïau mewn prosiectau o'r fath.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio gyda'r Pennaeth Cyfathrebu, gyda'r bwriad o hybu prosesau cyfathrebu effeithiol ar draws y Comisiwn gyda rhanddeiliaid yng Nghymru.
Pennaeth y Tîm (sy'n adrodd i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol) fydd rheolwr llinell deiliad y swydd. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cael cyfarwyddyd gan Dîm Comisiynydd y Gyfraith ar gyfer Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru.
Bydd deiliad y swydd yn derbyn cefnogaeth gan aelod penodol o lwybr carlam y gwasanaeth sifil, ac o bosibl yn rheolwr llinell ar yr aelod dan sylw.
Bydd yn gweithredu fel arweinydd ac yn dangos esiampl, gan gefnogi a hybu’r broses o rannu gwybodaeth, sgiliau ac arferion gorau.
   
  
   
  
Y person
Profiad:
Meini prawf hanfodol
Proffesiynol: Rhaid i chi fod yn gyfreithiwr, yn fargyfreithiwr neu'n Weithredwr Cyfreithiol Siartredig sydd wedi cymhwyso i ymarfer yng Nghymru a Lloegr, neu'n ddeiliad gradd sy'n gallu dangos lefel gymaradwy o allu cyfreithiol (er enghraifft, fel cyfreithiwr sydd wedi cymhwyso'n broffesiynol dramor, academydd cyfreithiol neu arbenigwr polisi cyfreithiol).
Hyder a sgiliau gwych wrth rwydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gyda'r gallu i ddefnyddio cysylltiadau presennol yng Nghymru, ac i feithrin cysylltiadau newydd ar draws Comisiwn y Gyfraith, Llywodraeth Cymru a chymuned y sector cyfreithiol a'r trydydd sector yng Nghymru.
Y gallu i feddwl yn strategol wrth gefnogi’r broses o ddiwygio'r gyfraith yng Nghymru, gan ddefnyddio crebwyll cadarn a dod â safbwyntiau eang ynghyd i alluogi Comisiwn y Gyfraith i gyflawni ei amcanion yng Nghymru.
Sgiliau cyfathrebu cadarn a chlir er mwyn rhoi briffiau a chyngor clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth - yn ysgrifenedig ac ar lafar - ar feysydd polisi cymhleth i Gomisiynwyr y Gyfraith, uwch randdeiliaid ac, fel y bo'n briodol, Gweinidogion, a meddu ar y sgiliau ysgrifennu datblygedig sy'n angenrheidiol i gefnogi cyhoeddiadau diwygio a chorfforaethol y Comisiwn, pan fydd angen cyfraniadau o'r fath.
Profiad ar lefel uwch o un neu fwy o’r rhain: datganoli yng Nghymru, y gyfraith yng Nghymru a/neu gyfraith gyhoeddus.
   
  
Meini prawf dymunol iawn
Profiad o gymryd rhan mewn rhwydweithiau cyfreithiol neu bolisi presennol yng Nghymru neu sy'n ymwneud â'r gyfraith yng Nghymru.
Siarad Cymraeg yn rhugl.
Ymddygiad:
Arweinyddiaeth - dangos balchder ac angerdd dros wasanaeth cyhoeddus. Creu a chynnwys pobl eraill yn y gwaith o gyflawni gweledigaeth ar y cyd. Gweld gwerth mewn gwahaniaeth, amrywiaeth a chynhwysiant, gan sicrhau tegwch a chyfleoedd i bawb.
Cyfathrebu a dylanwadu - cyfleu pwrpas a chyfeiriad yn glir, yn gywir ac yn frwdfrydig. Parchu anghenion, ymatebion a barn pobl eraill.
Cydweithio - ffurfio partneriaethau a chysylltiadau effeithiol yn fewnol ac yn allanol gyda phobl o bob math o gefndiroedd amrywiol, gan rannu gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth.
Cyflawni'n gyflym - cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau canlyniadau amserol o safon gyda ffocws a chymhelliant.
Gwneud penderfyniadau effeithiol - deall anghenion a defnyddio tystiolaeth, mewnbwn amrywiol, a chrebwyll cadarn i ddod i gasgliadau clir.
Y broses ddethol
Byddwch yn cael eich asesu yn unol â fframwaith proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil ar Brofiad ac Ymddygiad. Mae'r Profiad a'r Ymddygiad rydym yn chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr i'w gweld uchod. Edrychwch ar fframwaith Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil i gael rhagor o fanylion am Radd 6: Success Profiles: Civil Service behaviours - GOV.UK (www.gov.uk)
Bydd dau gam i’r broses ddethol. Ar gyfer y cam cyntaf, rhaid i chi ddarparu CV ac ysgrifennu datganiad addasrwydd (hyd at 750 gair) i egluro pam eich bod eisiau gweithio i Gomisiwn y Gyfraith, a'r rhesymau dros wneud cais am rôl cwnsler arbennig Cymru. Dylech ddileu cyfeiriadau at sefydliadau addysg, cymwysterau a gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiad y Gwasanaeth Sifil ar gyfer recriwtio dienw.
Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo yn y cam cyntaf yn cael eu gwahodd am gyfweliad.
Yn ystod y cam didoli, byddwch yn cael eich asesu ar sail eich Profiad a'ch Ymddygiad. Os bydd nifer fawr o ymgeiswyr, byddant yn cael eu didoli ar sail Profiad ac ymddygiad arweiniol yng nghyswllt Cyfathrebu a Dylanwadu. Yn ystod y cam cyf-weld, byddwch yn cael eich asesu ar sail eich Profiad, eich Ymddygiad a'ch cymhelliant personol ar gyfer y rôl.
Rhagor o wybodaeth am y swydd a'n ffyrdd o weithio
   
  
Mae'r swydd yn benodiad tymor penodol o 12 mis ar gyfer cyfnod o oddeutu 90 diwrnod - 0.4-0.6 cyfwerth ag amser llawn (2-3 diwrnod yr wythnos). Gellir ymestyn y cyfnod drwy drafod a dod i gytundeb yn ystod y cyfnod. Gan ei bod yn rôl ran-amser, rydym yn credu y byddai trefniant rhannu swydd yn opsiwn realistig.
   
  
Mae Comisiwn y Gyfraith yn gweithredu trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys cynllun oriau hyblyg a'r cyfle i weithio oriau cywasgedig, yn amodol ar anghenion busnes.
   
  
Bydd trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar gael fel y cytunwyd â'r rheolwr llinell ac yn unol â gofynion y rôl. Mae’n rôl Genedlaethol sy'n agored i ymgeiswyr y tu hwnt i Lundain, ond bydd disgwyl i ymgeiswyr o du hwnt i Lundain fynychu swyddfa Llundain yn rheolaidd yn unol ag anghenion busnes, er enghraifft ar gyfer cyfarfodydd pwysig gyda'r Comisiynwyr. Mae gan Gomisiwn y Gyfraith swyddfa yng Nghaerdydd (yn Churchill House), y mae’n ei rhannu â staff eraill y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chyrff Hyd Braich.
   
  
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd, gyda staff eraill y Comisiwn, fynd i'n digwyddiadau rheolaidd yng Nghymru - er enghraifft cyfarfodydd Pwyllgor Cynghori Cymru (sy'n cwrdd ddwywaith y flwyddyn), Cynhadledd Cymru'r Gyfraith, ac unrhyw gyfarfodydd ad hoc gyda Llywodraeth Cymru, swyddogion Senedd Cymru, a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru. Bydd y trefniadau’n cael eu trafod a’u pennu gyda’r ymgeisydd llwyddiannus, ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.
   
  
Cofiwch mai dim ond yn y DU y gellir cyflawni’r rôl hon - ni ellir ei chyflawni o dramor.
   
  
Os cewch chi’ch penodi, mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau ar eich gallu i ymgymryd â gwaith academaidd neu ymarfer preifat, i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng buddiannau a chydymffurfio â rheolau'r Gwasanaeth Sifil.
   
  
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael llythyr ffurfiol i gynnig penodiad ac i esbonio'r telerau ac amodau gwasanaeth yn fanwl. Bydd eich penodiad yn cynnwys cyfnod prawf.
   
  
Bydd ymgeiswyr addas aflwyddiannus yn cael eu cadw ar restr wrth gefn ar gyfer swyddi yn y dyfodol; mae’n bosibl y bydd swyddi o'r fath ar gael yn ystod y 12 mis nesaf ac yn cael eu cynnig i ymgeiswyr addas sydd ar y rhestr wrth gefn.
   
  
Cyflog
   
  
Mae’n rôl Gradd 6, a dyma ystod y cyflog: £71,381- £80,419. Bydd deiliad y swydd yn derbyn ad-daliad am unrhyw dreuliau gwaith a theithio sy’n codi mewn perthynas â busnes swyddogol.
   
  
Aelodaeth o Broffesiwn Cyfreithiol y Llywodraeth
   
  
Mae Proffesiwn Cyfreithiol y Llywodraeth (GLP) yn rhwydwaith o hyfforddeion a chyfreithwyr y Llywodraeth sydd, rhyngddynt, yn darparu gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer holl weithgarwch y llywodraeth. Mae rhai yn aelodau o Adran Gyfreithiol y Llywodraeth (GLD): nid yw eraill (fel cyfreithwyr Comisiwn y Gyfraith) yn rhan o'r GLD, ond maent yn rhan o rwydwaith ehangach GLP. Mae gan y GLP hefyd gysylltiadau agos â chyfreithwyr mewn rhannau eraill o'r Llywodraeth, fel Gwasanaeth Erlyn y Goron.
   
  
Bydd cyfreithiwr neu fargyfreithiwr sydd wedi cymhwyso i ymarfer yng Nghymru a Lloegr yn gallu manteisio ar fuddion a chyfleoedd rhwydweithio GLP ar ôl ymuno â Chomisiwn y Gyfraith. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i gyfreithwyr sydd wedi cymhwyso dramor sy'n bodloni'r gofynion cenedligrwydd ac yn gymwys i ymarfer yng Nghymru a Lloegr o dan y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig. Mae gwybodaeth am y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS) ar gael gan yr SRA (www.sra.org.uk).
   
  
   
  
Gwybodaeth am amrywiaeth a chyfle cyfartal
   
  
Rydym wedi ymrwymo i drin pobl yn agored a chyda pharch. Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr beth bynnag fo'u tarddiad ethnig, cred grefyddol, rhywedd, rhywioldeb, anabledd, statws priodasol, oedran a’u hil. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol:
http://www.civilservice.gov.uk/about/resources/diversity-guidance
   
  
Cyfweliadau
   
  
Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal ddechrau mis Rhagfyr 2025. Gallai’r cyfweliad gael ei gynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn nes at yr amser.
   
  
Os hoffech chi drafod y swydd hon ymhellach, cysylltwch â:
   
  
Rhagor o wybodaeth
   
  
Henni Ouahes, Pennaeth Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru, a Connor Johnston, Uwch Gyfreithiwr yn y tîm.
E-bost: mailto:henni.ouahes@lawcommission.gov.uk a connor.johnston@lawcommission.gov.uk