Disgrifiad Swydd (DS)

Band 6

Proffil Grŵp - Rheolwr Uned Gweithgareddau (RhUG)

Disgrifiad Swydd - RhUG: Ymgysylltu â'r Gymuned Fusnes



Cyfeirnod y Ddogfen OR JES 254 JD B6: AUM : Business Community

Engagement v11.0

Math o Ddogfen Rheoli

Fersiwn 11.0

Dosbarthiad Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi 26 Tachwedd 2024

Statws Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Y Tîm Sicrhau a Chefnogi Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer

y DS









OR JES 254 JD B6: AUM: Business Community Engagement v11.0

Disgrifiad o'r Swydd



Teitl y Swydd

RhUG: Ymgysylltu â'r Gymuned Fusnes

Proffil Grŵp

Rheolwr Uned Gweithgareddau

Lefel yn y Sefydliad

Rheolaeth Llinell Gyntaf

Band

6



Trosolwg o'r Swydd

Swydd rheoli mewn sefydliad yw hon

Crynodeb

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddatblygu perthynas gyda'r gymuned leol er lles y naill a'r llall i hyrwyddo gwaith Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) a'r sefydliad er mwyn codi ymwybyddiaeth o gefnogi carcharorion tra byddant yn y carchar ac wedi iddynt gael eu rhyddhau a chreu cyfleoedd iddynt.


Swydd anweithredol, nad yw'n cylchdroi yw hon y mae iddi gyfrifoldebau rheolaethol


Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd ymgymryd â'r cyfrifoldebau, gweithgareddau a'r dyletswyddau a ganlyn:


  • Bod yn gyfrifol am reoli'r cysylltiadau cyfathrebu/Cysylltiadau Cyhoeddus rhwng y gymuned leol a'r sefydliad trwy ymateb i geisiadau am wybodaeth, cynrychioli'r sefydliad mewn gweithgareddau allanol a hwyrwyddo gwaith y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (HMPPS)/ y sefydliad ymhlith grwpiau a sefydliadau cymunedol.

  • Datblygu strategaeth leol i ymgysylltu â diwydiant allanol, gan gynnal rhwydweithiau i ymchwilio i ffrydiau ariannu er mwyn codi i'r eithaf ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd i garcharorion.

  • Bod yn gyfrifol am sicrhau cysylltiadau gyda chyfleoedd partneriaeth i garcharorion sy'n ategu trefn y sefydliad a chynnig cyfleoedd i ymarfer sgiliau gwaith a ddatblygwyd yn y ddalfa neu sy'n gysylltiedig â dyheadau cyflogaeth yn y dyfodol.

  • Bod yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth leol i ymgysylltu â diwydiant y tu allan, cynnal rhwydweithiau i ymchwilio i ffrydiau ariannu er mwyn codi i'r eithaf ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd i garcharorion.

  • Bod yn gyfrifol am sicrhau y caiff lleoliadau carcharorion eu monitro'n rheolaidd er mwyn gwirio a yw cyflogwyr, hyfforddwyr a cholegau'n cydymffurfio â rheoliadau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Anfon unrhyw waith papur arsylwi at y person Iechyd a Diogelwch a benodwyd.

  • Bod yn gyfrifol am reoli a chyd-drefnu ymweliadau â sefydliadau gan gynrychiolwyr sefydliadau partner.

  • Bod yn gyfrifol am ganfod cyfleoedd i gyflogwyr/cyrff cynrychioli cyflogwyr hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer hyfforddi/cyflogi cyn-droseddwyr a datblygu prosesau gyda chyflogwyr yn sicrhau cytundebau ariannu/priodol yn ôl y gofyn.

  • Cynghori a gweithio gyda chydweithwyr yn y timau dysgu, sgiliau, cyflogaeth a Gweithgareddau i gryfhau perthnasoedd a chysylltiadau gweithio trwy lif perthnasol ac amserol gwybodaeth.

  • Cynghori a gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi cynlluniau i hyrwyddo'r gwaith yn y gymuned leol i ostwng cyfraddau aildroseddu, gan gyfnewid gwybodaeth yn ôl y gofyn.

  • Cadw cyfeirlyfr o sefydliadau gwirfoddol/statudol sy'n darparu gwasanaethau i garcharorion yn y sefydliad.

  • Bod yn gyfrifol am gynnal cysylltiadau gyda thimau gwasanaethau cymunedol, swyddfeydd prawf lleol, yr heddlu a chyrff awdurdodau lleol eraill i droi cynlluniau cenedlaethol yn drefniadau ymarferol a llwyddiannus yn y gymuned leol a gweithredu arnynt.

  • Bod yn gyfrifol am sicrhau y caiff bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth eu nodi, gan gynnwys grwpiau amrywiaeth a rhai a gaiff eu tangynrychioli.

  • Bod yn gyfrifol am sicrhau y caiff y lleoliadau hyfforddi eu datblygu gyda darparwyr lleol a mynd i gyfarfodydd risg angenrheidiol i sicrhau fod prosesau yn eu lle i gefnogi'r darparwr a gwarchod y cyhoedd.


Ymgymryd â thasgau rheoli eraill yn cynnwys:


  • Rheoli cyllidebau wedi'u datganoli yn unol â'r gweithdrefnau ariannol a amlinellir yn y gyllideb a ddirprwyir.

  • Bod yn gyfrifol am reoli'r holl staff yn eu maes. Mae hyn yn cynnwys perfformiad a datblygiad staff a'u gwerthusiad blynyddol trwodd i reoli absenoldeb salwch.

  • Sicrhau y gweithredir ar holl safonau'r HMPPS a Dangosyddion Cyflawni Gwasanaeth a'u rheoli yn y maes gwaith perthnasol

  • Sicrhau y gweithredir ar yr holl bolisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a'u bod yn cydymffurfio e.e. Y Fframwaith Diogelwch Cenedlaethol (NSF), Y Strategaeth Diogelwch Lleol (LSS) a'r Llawlyfr Ariannol.

  • Yn unol â'r cyfarwyddiadau, mynd i fyrddau/cyfarfodydd perthnasol a chyfrannu'n weithredol, un ai fel cadeirydd neu aelod o'r tîm.

  • Rhoi arweiniad a chyfarwyddyd i reolwyr a staff yn eu maes gwaith diffiniedig trwy eu briffio, creu perthnasoedd anffurfiol a ffurfiol a chyfathrebu effeithiol.

  • Llunio adroddiadau perthnasol yn ôl y gofyn a sicrhau yr ymatebir i'r holl ohebiaeth o fewn yr amser y cytunwyd arno.

  • Cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol a ffurfio perthynas dda â nhw.

  • Rheoli adnoddau i gyflawni'r gweithgareddau yn y maes gwaith a ddiffinnir a chyfrannu at y broses cynllunio busnes tymor canolig i hir.

  • Sicrhau bod y maes gwaith diffiniedig a'r gweithgareddau cysylltiedig yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Sicrhau yr ymgymerir â'r holl asesiadau risg a bod yn staff yn ymwybodol o'r cyfrifoldeb personol tuag at sicrhau y cydymffurfir â rheolau Iechyd a Diogelwch.


Mae'r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio'r swydd fel ag y mae ar hyn o bryd ac nid bod yn gynhwysfawr yw eu bwriad. Mae disgwyl i ddeilydd y swydd dderbyn newidiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Efallai y bydd yn rhaid ailedrych ar addasiadau sylweddol dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi a thrafodir gyda deilydd y swydd, yn y lle cyntaf.


Gallu i gyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus trwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) y Gymraeg.




Ymddygiad


  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cydweithio

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cryfderau


Cynghorir dewis cryfderau yn lleol, yr argymhelliad yw 4-8

Profiad



Gofynion Technegol

Bydd gan ddeilydd y swydd gymwysterau perthnasol mewn maes gwaith megis Rheoli Gweithgareddau Masnachol, cymwysterau hyfforddi cydnabyddedig/ neu fod yn aseswr achrededig a bod â gwybodaeth/profiad arbenigol mewn Diwydiant perthnasol.


Bydd angen bod â gwybodaeth/ymarferion gweithio cyfoes mewn meysydd arbenigaeth.


Ymgeiswyr mewnol


Bydd disgwyl i'r holl staff sydd newydd eu dyrchafu i'r rolau rheolwr llinell gyntaf Band 6 a ganlyn (Rheolwr Uned Gweithgareddau, Rheolwr Uned Cyfleusterau a Gwasanaethau, Rheolwr Busnes Cyfleuster a Gwasanaethau, Rheolwr Rhaglenni, Rheolwr Triniaeth Arbenigol neu Gynghorydd Cydraddoldeb) mewn Sefydliadau, gwblhau'r Rhaglen i Reolwyr Newydd ar Ddysgu yn y Gwasanaeth Sifil o fewn tair blynedd i gael dyrchafiad.


Ni fydd yn rhaid i staff sy'n cael eu mapio neu eu hailraddio i Fand 6 ac oedd eisoes yn gweithio ar lefel gyfatebol, wneud y cymhwyster.


Ymgeiswyr allanol


Bydd disgwyl i'r holl staff allanol sy'n ymuno fel Rheolwr Uned Gweithgareddau, Rheolwr Uned Cyfleusterau a Gwasanaethau, Rheolwr Busnes Cyfleuster a Gwasanaethau, Rheolwr Rhaglenni, Rheolwr Triniaeth Arbenigol neu Gynghorydd Cydraddoldeb Band 6 mewn Sefydliadau, gwblhau'r Rhaglen i Reolwyr Newydd ar Ddysgu yn y Gwasanaeth Sifil o fewn tair blynedd.


Gallu


Cymwysterau Gofynnol

  • Bydd gwiriadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd

  • Bydd pob ymgeisydd allanol ar brawf am chwe mis. Bydd ymgeiswyr mewnol ar brawf onid ydynt eisoes wedi bod ar gyfnod prawf o fewn HMPPS.

  • Mae'n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy'n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.



Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)


37 awr yr wythnos