Proffil y Grŵp: Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol

Band 4


Cyfeirnod y Ddogfen

HMPPS OR T 46 GP Specialist Production Instructor v13.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

13.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

31 Hydref 2022

Statws

Llinell sylfaen

Cynhyrchwyd gan Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd

Awdurdodwyd gan Y Tîm Gwobrwyo Tystiolaeth ar gyfer y DS










Proffil y Grŵp

Enw Proffil y Grŵp

Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol

Lefel yn y Sefydliad

Darparu - Bydd y swyddi ar y lefel hon yn canolbwyntio ar y dasg ac yn darparu gweithgareddau neu wasanaethau wedi’u diffinio.

Band

4

Trosolwg

Bydd deiliaid swyddi ym Mhroffil y Grŵp hwn yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth, gwybodaeth a sgiliau i garcharorion mewn gweithdy arbenigol er mwyn iddyn nhw allu gwella eu rhagolygon cyflogaeth ar ôl cael eu rhyddhau gyda golwg ar leihau aildroseddu. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod yr holl wasanaethau’n cael eu darparu i safon uchel a bod diogelwch a rheolaeth yn cael eu cynnal bob amser. Bydd deiliad y swydd yn gallu dysgu carcharorion gyda'r nod o ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol a gall gael ei gefnogi gan sefydliadau allanol fel colegau lleol.

Nid yw’r disgrifiad swydd hwn i’w ddefnyddio gan ddeiliaid swyddi mewn gweithdai cydosod/pacio sylfaenol, yn hytrach dylid defnyddio Hyfforddwr Cynhyrchu - Mentrau. Fodd bynnag, ar sail tymor byr eithriadol, gall deiliaid swyddi oruchwylio carcharorion mewn gweithdai mwy sylfaenol.

Mae hon yn swydd anweithredol sy’n delio â charcharorion heb gyfrifoldebau rheolaeth linell.

Nodweddion

Dyma rai o’r tasgau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â’r Proffil Grŵp hwn:

  • Cynefino'r carcharorion yn y gweithdy/lle gwaith, a’u hyfforddi mewn agweddau fel iechyd a diogelwch, Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd (COSHH), a defnyddio peiriannau ac offer.

  • Rhoi cymorth i'r carcharorion fel y bo'r angen; teilwra’r gofynion dysgu a hyfforddi i anghenion yr unigolion

  • Trefnu amserlenni a rheoli targedau/safonau ansawdd, gan sicrhau bod trefniadau cytundebol yn cael eu darparu

  • Asesu a gwerthuso sgiliau carcharorion hyd at safonau cymwysterau cenedlaethol

  • Goruchwylio a chynnal disgyblaeth carcharorion o fewn y gweithdy/lle gwaith, gyda chyfrifoldeb am berfformiad, cymhelliant, disgyblaeth, arfarnu a datblygu carcharorion

  • Agor a llenwi ffurflenni Asesu, Gofal yn y Ddalfa a

Gwaith Tîm, Adroddiadau ar Ddigwyddiadau Lleihau Trais ac Adroddiadau Gwybodaeth Diogelwch pan fo angen a chyfrannu at adroddiadau ar Gymhellion a Breintiau a Enillir (IEP).

  • Cofnodi presenoldeb a chymeradwyo’r oriau a weithiwyd gan garcharorion a chyflogau, gan gynnwys cofnodi darnau gwaith lle bo hynny’n briodol

  • Cynnal gwiriadau o ddeunyddiau ac offer yn y gweithdai, a sicrhau bod yr ardaloedd yn ddiogel gan gofnodi unrhyw namau ar offer/cyfarpar. Cynnal rhaglen cynnal a chadw ar beiriannau

  • Cyfrannu at asesiadau risg Iechyd a Diogelwch sy’n gysylltiedig â'r gweithdy/lle gwaith a mannau arbenigol

  • Cynnal sgan canfod metel neu chwiliad drwy rwbio ar garcharorion sy’n mynychu ac yn gadael eu gweithdai eu hunain


Disgrifiadau Swydd sy’n berthnasol i’r Proffil Grŵp hwn

Nid yw’r swydd yn cylchdroi a bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni un o’r disgrifiadau swydd yn ei faes arbenigedd ei hun. Ceir rhestr enghreifftiol o ddisgrifiadau swydd isod.

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Mwynderau a Chadwraeth

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Garddwriaeth Fasnachol

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Gwydr Dwbl Ffenestri Alwminiwm

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Trwsio Beiciau

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Tecstilau - Cynhyrchu Dillad

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Tecstilau - Atgyweirio Peiriannau Gwnïo

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwaith Peirianyddol

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Systemau Gorchudd Powdr

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Gwaith Metel Dalennog

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Lluniadu drwy Gymorth Cyfrifiadur

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Saernïo a Weldio

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Golchi Dillad

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Rheoli Da Byw

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Modiwlau chwistrellu plastig, thermo blastig

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Argraffu - Gwarchodwr Peiriant Lithograffig

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Argraffu - Gwneud Platiau Lithograffeg Gwreiddiol

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Argraffu - Gorffeniad Argraffu a Rhwymo

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwastraff Amgylcheddol

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Saer Coed Gosod Gwaith Coed

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwaith Coed - Peiriannydd Pren

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwaith Coed - Chwistrellydd Gorffeniad Pren

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Hyrwyddo Gweithgynhyrchu

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Braille

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Arwyddion

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Concrit

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Esgidiau

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Trwsio Teledu

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gorchuddiwr Dodrefn

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwaith Warws a Chyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Cynnal a Chadw a Glanhau Cerbydau

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Deunyddiau Print Hyrwyddo

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Arwyddion Digidol

Isafswm

Cymhwysedd

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd.

  • Mae cyfnod prawf o 6 mis yn berthnasol i bob ymgeisydd allanol. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

  • Mae’n ofynnol i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad y mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn ei ystyried yn hiliol.

Sgiliau Hanfodol/

Cymwysterau/

Achrediad/

Cofrestriad

Gall fod yn asesydd NVQ cymwysedig.

Wrth drosglwyddo i sefydliad Pobl Ifanc, bydd gofyn i ddeiliad y swydd lwyddo mewn asesiad i ddangos ei fod yn addas i weithio gyda Phobl Ifanc.

Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) yn Gymraeg.

Oriau Gwaith a Lwfansau

37 awr yr wythnos

Ymddygiadau

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cydweithio

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Datblygu ei Hun ac Eraill

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad Hanfodol

  • Rhaid meddu ar brofiad gwaith perthnasol mewn maes arbenigol

  • Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd rywfaint o brofiad o oruchwylio

  • Dylai fod â phrofiad o ddefnyddio peiriannau ac offer diwydiannol safonol

Technegol

Gofynion

DS Edrychwch ar y disgrifiad swydd unigol sy’n ymwneud â phroffil y grŵp hwn i weld unrhyw ofynion penodol i’r swydd a’u hychwanegu os oes angen.

• Yn meddu ar neu’n barod i weithio at Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc cysylltiedig

Gallu

  • Sgiliau Technoleg Gwybodaeth

  • Mathemateg Sylfaenol

  • Saesneg Sylfaenol

Proffil Llwyddiant

Ymddygiadau

Cryfderau

Argymhellir bod cryfderau

yn cael eu dewis yn lleol -

yn argymell 4-

8.

Gallu

Profiad

Technegol

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Sgiliau Technoleg Gwybodaeth

Rhaid meddu ar brofiad gwaith perthnasol

mewn maes arbenigol

Yn meddu ar neu’n barod i weithio at Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc cysylltiedig

Cyfathrebu a

Dylanwadu

Mathemateg Sylfaenol

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd rywfaint o brofiad o oruchwylio

Cydweithio

Saesneg Sylfaenol

Dylai fod â phrofiad o ddefnyddio peiriannau ac offer diwydiannol safonol

Rheoli Gwasanaeth o Safon

Datblygu ei Hun ac Eraill

HMPPS OR T 46 GP Specialist Production Instructor v13.0

HMPPS OR T 46 GP Specialist Production Instructor v13.0